o orllewin i ddwyrain, ac yn meddiannu ei ran ddeheuol yn llwyr, fe orwedd llyn o ddwfr hirgul, y tywallt cornant y bwlch ei hun iddo. Un o'r lliaws llynoedd hardd ydoedd hwn, ag yr oeddwn ychydig ddyddiau yn gynt wedi eu gweled o'r Wyddfa. Am y Wyddfa, gwelwn hi'n awr yn uchel uwch fy llaw yn y gogledd-ddwyrain yn edrych yn fawreddog iawn yn wir, yn disgleirio fel helm arian tra'n dal gogoniant machlud haul. Aethum rhagof yn arafaidd ar hyd y ffordd, y llyn is fy llaw ddeheu tra'r oedd ochr lethrog y Wyddfa uwch fy llaw aswy. Y prynhawnddydd oedd dawel-lonydd, ac nid oedd unrhyw drwst yn disgyn ar fy nghlust, oddigerth swn pistyll a ymdywalltai i'r llyn oddiwrth fynydd du a guchiai oddiarnodd ar y dde, ac a daflai gysgod prudd ymhell drosto. Y rhaiadr hwn oedd yng nghymdogaeth craig hynod yr olwg arni, a ymdaflai dros y llyn oddiwrth ochr y mynydd. Crwydrais gryn bellter ffordd heb gyfarfod na gweled neb byw bedyddiol. . . . Ar ochr ddwyreiniol y dyffryn y mae'r llyn yn llawer eangach nag y gwelswn ef o'r blaen, canys yr oedd y mynydd hirfaith ar y dde wedi cyrraedd ei derfyn, a'r llyn wedi ymestyn gryn lawer yn y rhanbarth honno, ac yn lle'r mynydd du yr oedd bryn prydferth tuhwnt iddo." Yn y modd hyn y deonglir cyfriniaeth naturiol yr olygfa gan George Borrow. Diau y teimlodd lliaws o frodorion y lle ei hunan gyfriniaeth uwch hyd yn oed na hon yn yr un olygfa ar adegau o ddyrchafiad ysbrydol; ond erys yr olygfa am ei dehongliad teilwng gan ryw athrylith sydd eto yn aneffro, hyd y gwyddis.
Er fod yr eglwys wladol yn y lle hwn ar gychwyniad Methodistiaeth, pryd nad ydoedd yn y Waenfawr a'r Rhyd-ddu, eto fe lynodd cysgodion nos yn hwy yma nac yn y lleoedd hynny o lawer o flynyddoedd, yn enwedig yn hwy nag yn y Waen, er agosed ydoedd. Wedi i halogwyr dydd yr Arglwydd ddechre gwladeiddio yngwydd crefyddwyr, hwy gilient yma o ddau ben yr ardal er cael llonyddwch gyda'u gorchest-gampau. A cheid ymrafaelion mynych rhwng hogiau y ddau ben i'r ardal. Fe fyddai'r campwyr hyn yn dilyn y gwasanaeth fwy neu lai yn yr eglwys, a gwelwyd yr offeiriaid yn llywyddu yn y mabol-gampau wedi i'r gwasanaeth fyned drosodd. Yr oedd yr eglwys a'r dafarn yma yn gyfleus yn ymyl ei gilydd. Dechreuid y dydd yng ngwasanaeth yr eglwys; diweddid yng nghyfeddach y dafarn. Elai'r elw oddiwrth y campau i gynorthwyo rhai mewn angen, neu ryw achos a gyfrifid yn deilwng. Rhoid