gwobrau am saethu a champau eraill, a thelid rhywbeth i lawr am gynnyg. Yr arian a delid felly elai i gynorthwyo'r achosion dyngarol. Fe daflai'r amcan dyngarol oedd iddynt glôg o gyfiawnder ymarferol dros y campau, a chyda'r ateg hwnnw iddynt fe barhausont yn llawer hwy.
Yn yr awyrgylch neilltuol yma nid yw mor anhawdd deall pa fodd y coleddid ysbryd mor erledigaethus tuag at y penaugryniaid llym eu chwaeth a rhagfarnllyd eu syniadau. Ac felly ni ddarllennwn ym Methodistiaeth Cymru (II. 146) am y pedwar gwŷr hynny elai o Lanberis drwy Nant y Betws i Helyghirion, rhwng Llangybi a Phwllheli, y byddai raid gofalu er mwyn osgoi erledigaeth o'r fath fwyaf sarhaus, am fyned drwy'r Nant cyn codi o'r trigolion y bore, ac aros nes iddi nosi cyn dychwelyd drachefn.
Fe godir nodiadau John Davies yr Ystrad yma ar hanes dechreuad yr achos allan o'r llyfr eglwys. Ysgrifennwyd hwy yn ddiweddarach na'r amgylchiadau eu hunain. Eithr yr oedd efe yn sylwedydd craff ac yn gofiadur da.
"Yr oedd y gymdogaeth neu Nant y Betws cyn dechre cadw ysgol Sabothol a phregethu'r Efengyl ynddi yn debyg i'r geiriau hynny yn Esieciel y Proffwyd, 'Canys tywyllwch a orchuddia't ddaear a'r fagddu y bobloedd; ond arnat ti y cyfyd yr Arglwydd ei oleuni'—sef ar yr ysgol Sul a phregethu'r Efengyl—'a'i ogoniant a welir arnat.'
'Cyn i'r Methodistiaid ddechre cadw ysgol yng Ngherryg y rhyd a Bron y fedw, yr oedd y Wesleyaid wedi bod yn cadw ysgol yn ysgubor Plas isa am dymor cyn adeiladu capel Salem neu Dynyweirglodd. Y bregeth gyntaf wyf yn gofio ganddynt oedd yn hen ysgubor John Williams Betws dafarn, dan yr un to a thŷ Ann Thomas, wrth glawdd yr hen fynwent cyn adeiladu'r llan newydd. Y pregethwr oedd genhadwr perthynol i'r Wesleyaid wedi dod o Affrica. William Davies oedd ei enw. Buont yn pregethu wedi hyn yn Llecha rola. Ychydig o lwyddiant fu ar eu llafur yn y gymdogaeth. Enillwyd ychydig i broffesu, sef dau fab Caeau gwynion, Humphrey Hughes a Richard Hughes, William Roberts Llecha rola a'i wraig. Ond darfod a wnaeth yr achos yn bur fuan wedi gwneud y capel yn Nhynyweirglodd.