"Pan y dechreuodd John Pritchard gadw ysgol yng Ngherryg y rhyd, cyn bo hir iawn fe ddechreuwyd cadw cyfarfod gweddi yno. John Pritchard, John Owen Hafod y rhug, John Williams Dwr oer, William Owen Tŷn drwfwl, a Rowland Morris Cae ystil, John Elis teiliwr, Owen Owens Pant y waen, Richard Owen, Thomas Griffith Pant cae haidd, Thomas Williams Tŷ cwta, Morgan Owen Ty'n cae newydd, Elis Hughes Ty'n'ronen, David Hughes Pen y cae, ac amryw eraill nas gallaf eu cofio. Byddent yn dyfod bob yn bedwar at chwech o'r gloch nos Saboth pan na byddai pregeth yn y Waen. A byddai amom ninnau y plant gymaint o'u hofn a phe baent yn bedwar o angylion, a ffoi y byddem i ryw gysgod rhag iddynt ein gweled. Mae plant ein heglwysi ni'n awr yn bur wahanol—dim ofn crefyddwr mwy na rhyw ddyn arall.
"Ond fe lwyddwyd i gael pregethwr i Gerryg y rhyd, sef John Thomas Llanberis. Bu Rowland Abram Ysgoldy yno yn pregethu. Nid oes gennyf ddim cof am y bregeth. Yr oedd y tŷ yn orlawn o bobl yn gwrando. Wedi hyn cymerwyd y capel am rent gan y Wesleyaid. Ymhen rhyw ysbaid o amser dechreuodd y Methodistiaid bregethu ynddo. Nid oedd y pryd hyn o Lwyn onn i Lwyn bedw ond ychydig o bersonau yn proffesu. Rees Williams Cwm bychan a'i wraig, Elin Davies Cerryg y rhyd, Ann y ferch, Elin Davies Tŷ coch, Garreg fawr, Cathrin Elis Betws ffarm, Margared Morgans Minffordd, Ann Griffith Hafod y wern, Cathrin Williams Cae Howit. Nid ydym yn cofio am ychwaneg pan y dechreuwyd pregethu yn rheolaidd yn Salem.
"Mae'n debyg na bu mewn un gymdogaeth mor fechan gymaint o hen bobl yn digwydd bod yn fyw ar unwaith ag oedd y pryd hwn yn y gymdogaeth hon. Yr ydym yn cofio fod, rhwng gwŷr a gwragedd, o bump a thriugain i bedwar ugain, yn agos i ddeugain mewn nifer—eu pennau fel y gwlan, y pren almon wedi blodeuo. Byddai'r adnod honno yn Secaria, 8 ben. 4 adnod, yn dyfod i'm meddwl, wrth eu gweled yn myned a dyfod i'r pregethau y Saboth: 'Hen wŷr a hen wragedd a drigant eto yn heolydd Jerusalem, a phob gwr a'i ffon yn ei law gan amlder dyddiau.' Marged Roberts Tŷ'r capel â'i ffon yn ei llaw, Elisabeth Hughes Plas isa â'i ffon yn ei llaw, Elisabeth Hughes Ty'n y weirglodd â'i ffon yn ei llaw, Gwen Williams Cwm bychan a'i ffon yn ei llaw, Pyrs Owen yn ddyn wrth ei ddwyffon gan amlder dyddiau, William Jones