Hafod y wern wrth ei ddwyffon, Owen Griffith Tyddyn Syr Huw wrth ei ffon, John Lewis Tŷ coch a Letis Hughes wrth eu ffyn, John Davies yr Ystrad (tad yr ysgrifennydd) wrth ei ffon, Owen Lewis Betws wrth ei ffon, ac amryw eraill nas gallwn eu cofio, wrth eu ffyn gan amlder dyddiau.
"Yr oedd pregethu'r Efengyl yn y dyddiau hyn yn effeithiol iawn. Gellir dyweyd na bu hi tuag atom ni mewn gair yn unig, ond mewn nerth ac yn yr Ysbryd Glan ac mewn sicrwydd mawr. Yr oedd llaw yr Arglwydd yn cydweithio, a nifer mawr yn credu. Yr oedd tywyllwch ac anwybodaeth a hen draddodiadau ofergoelus yr hen bobl yn gestyll o flaen gweinidogaeth yr Efengyl yn y dyddiau hynny, ond yr arfau nad ydynt gnawdol a fu yn nerthol drwy Dduw i'w bwrw i'r llawr. Argyhoeddwyd amryw o'r hen bobl y soniasom am danynt o'r blaen. Cafodd amryw ohonynt dro amlwg ac effeithiol a buont yn ffyddlon hyd angeu. Gallem enwi rhai ddaeth i'r Seiat yn bedwar ugain, megys Elisabeth Hughes Ty'n y weirglodd (nain Owen Hughes Graianfryn), Pyrs Owen yr Odyn, Margarad Roberts, Caergors gynt, yn awr yn byw yn nhy'r capel efo'i merch, Elisabeth Roberts, yr hon a briododd Griffith Davies Cwm yr ael hir, Nant Uchaf, Llanberis.
"Nid oedd seiat ganol yr wythnos y pryd hyn ond yn y Waenfawr. Byddai Ann Evans Bron y fedw a mam William Thomas Bron y fedw a mam William Jones Ty'n y ceunant, tad Thomas Jones Bron y fedw, y pryd hyn yn dod i'r Waen am flynyddoedd i'r seiat ganol wythnos.
"Pregeth ddau o'r gloch fyddai yn Salem. Byddent yn galw seiat bach ar ol, a byddai rhai yn aros o'r newydd yn wastad o ardal y Waen neu Ryd-ddu neu Salem. Byddent yn dod o Ddrws y coed uchaf, o Lwyn y forwyn, o waith Drws y coed, dros fwlch y noch, ar hyd ochr y planwydd, drwy gors Cwm bychan. Yr oedd ganddynt blanc dros yr afon i ddod i Ddôl y Bala.
Wedi sefydlu pregethu rheolaidd, Rhyd-ddu 10, Salem 2, Waen 6, symudwyd yr ysgol o Gerryg y rhyd, a rhanwyd hi, un ran i fyned i Salem a rhan arall i'r llan. I ganlyn y rhan aeth i'r llan yr aethum i. Yr oedd cyfamod wedi ei wneud rhyngom a'r person, Armstrong Williams, iddo ef ddyfod atom ni i'r ysgol at 9 o'r gloch,