a'r ysgol aros gydag yntau yn y gwasanaeth. Byddai ef yn holi yr ysgol yn Hyfforddwr Mr. Charles bob yn ail â John Prichard. Bu yn gwrando pregethau yn yr hen Salem pan oedd yn byw ym Mhlas y nant. Rhyw lechu yng nghil y drws y byddai a diengyd i ffwrdd cyn y diwedd.
"Yr oedd canu Salm yn llewyrchus iawn yn llan y Betws y pryd hyn. Byddai Ffoulk Roberts y Clegyr yn dod atom i'n dysgu, deuai bob nos Sadwrn. Yr oeddem wedi ei gyflogi am ddwy flynedd. Cynyddodd y côr hyd o 40 i 50. Yr oedd lliaws o hen bobl ynddo. Perthynai iddo rai o'r Waenfawr. Ystyrrid ef y côr goreu yn yr holl ardaloedd. Cawsom ein galw i ganu i Lanberis a Llanrug a Llanwnda a Llanllyfni, ac i Landegfan yn sir Fon, pe buasem yn myned. Yr oedd y canu da wedi dylanwadu cymaint ar y bobl fel yr oeddynt yn dylifo o bob man i'w glywed, nes yr oedd yr hen lan yn rhy fechan i'w cynnal.
"Saboth Thomas Owen oedd yn Saboth byth gofiadwy. Saboth y tywalltwyd yr Ysbryd Glan yn helaeth. Yr oedd y Saboth hwnw yn fath o Bentecost i ardaloedd Rhyd-ddu a Salem a'r Waenfawr a'r amgylchoedd. Dau o'r gloch yn Salem wrth bregethu ar weddi Jabes i ychydig hen bobl, syrthiodd yr Ysbryd Glan arnynt nes torri yn orfoledd mawr. Yr oedd morwyn William Evans Cilfechydd a gwas William Davies Waen yn gorfoleddu hyd y ffordd wrth ddod o'r bregeth. Yr oedd fy mam wedi dod adref o'm blaen. Yr oeddwn i wedi aros yn y Betws gyda nifer o bobl ifanc i ddysgu rhywbeth. Pan ddaethum i'r tŷ, y peth cyntaf ddywedodd fy mam wrthyf oedd,—' Sioncyn, 'daseti yn y capel y pnawn yma, gael iti weled gorfoleddu!' Penderfynais fyned i'r Waen y nos i weled gorfoleddu. Wyddwn i yn y byd beth oedd gorfoleddu. Yr oedd si wedi myned ar led mewn ychydig amser fel taran fod gorfoleddu yn y capel am 2 o'r gloch. Aeth pawb o'r bobl ieuainc i'r Waen y nos. Erbyn cyrraedd yno yr oedd yr hen gapel wedi ei orlenwi. Dechreu'r odfa, rhoi pennill i ganu—dim gorfoleddu eto. Y pregethwr yn troi at ei destyn, dechre darllen, Habacuc iii. 16,—' Pan glywais, fy mol a ddychrynodd; fy ngwefusau a grynasant wrth y llef; daeth pydredd i'm hesgym, ac yn fy lle y crynais — Ar ganol darllen, dyma hen bobl sêt fawr y ar eu traed â'u dwylo i fyny. Ar hyn torrodd yn orfoledd drwy'r holl gapel, i lawr ac i fyny. Ni bu côr canu Salem byth yn y Betws