ar ol y Saboth hwnnw, oblegid rhwng Saboth Thomas Owen a'r Saboth canlynol gyda Robert Owen Nefyn, aeth y rhan fwyaf o'r côr i'r seiat. Diwygiad bendigedig oedd diwygiad 1831. Dechreuodd yn nechre Mai a pharhaodd yn ei wres ar hyd yr haf. Ym- ledodd y diwygiad i'r gwahanol ardaloedd. Codwyd meibion a merched crefyddol a defnyddiol iawn ohono.
"Buom yn cerdded i'r Waenfawr i'r seiat am yn agos i ddwy flynedd. Caem seiat bach ar ol y bregeth adref weithiau i ymddiddan â'r hen frodyr a'r hen chwiorydd. Byddent weithiau yn bur ddigrif ac yn bur onest. Yr oedd Pyrs Owen unwaith yn adrodd i'r pregethwr ei fod yn ei wely ac yn meddwl am bregeth y Sul o'r blaen, a dyma Iesu Grist ato ac yn sefyll wrth ei ymyl. 'Beth ddwedodd o?' meddai'r pregethwr. 'Peri imi gredu yn yr Arglwydd Iesu,' meddai yntau. Beth wnaeth i chwi feddwl mai Iesu Grist oedd o?' meddai'r pregethwr. 'Diawc a'm cato i, ond 'doedd o yr un fath yn union ag Iesu Grist,' meddai Pyrs, a Iesu Grist oedd o hefyd, neu fe ddaru mi feddwl mai y fo oedd o beth bynnag. Yr oedd i lais o wrth fy modd i, a'i olwg o'n hardd. Mi gysgais yn gysurus dan y bore ar ol i'r gwr ymadael â mi.' Hen chwaer arall yn dweyd ei phrofiad yn seiat ganol yr wythnos. Yr adnod honno yn y Salm a'i digalonnai yn arw iawn,—' Tra yr oeddwn yn myfyrio, enynnodd tân a mi a leferais â'm tafod.' Meddyliai hithau fod rhyw wreichionnen fach yn ei mynwes, ond ei bod yn methu hel tanwydd myfyrdod arno er ei ennyn yn dân, fel y medrai hi lefaru â'i thafod. Mae eisieu llefaru,' meddai, 'yn ein teuluoedd. Pe bae gennyf fwy o dân, mi lefarwn ac a fynegwn yr hyn a wnaeth Duw i'm henaid.' Gofynnodd Rhys Williams iddi, beth oedd hi'n feddwl oedd y Salmydd wedi ei lefaru â'i dafod fel ffrwyth ei fyfyrdod? 'Wel, y Salm fawr, Rhysyn,' meddai hithau. Daswn innau wedi myfyrio yn iawn, mi fuasai gen i Salm o brofiad iti, Rhysyn bach !' [Lettuce Hughes Tŷ coch ydoedd y chwaer, ebe Mr. S. R. Williams, a dywed na fedrai ddarllen, ond bod ganddi stôr o adnodau yn ei chof. Priodola ef yr hanesyn nesaf iddi hi.] Chwaer arall yn adrodd iddi fod mewn brwydr ofnadwy â'r diafol wrth ddod i'r seiat. Bu'n meddwl am y seiat drwy'r dydd, a phan ddaeth amser cychwyn, cychwynnodd. 'Fel yr oeddwn yn mynd oddiwrth y tŷ ar y llwybr yn y Deg llathen, dyma Satan i'm cyfarfod. 'Be ddwedodd o wrthych?' meddai Rhys Williams. 'I ble yr ei di?' medda fo wrtha'i. 'Mi af i'r seiat,' meddwn innau wrtho