ar y pregethwyr a ddeuai yno yn achlysurol. Ac yr oedd ei gwr, er heb broffesu, yr un mor gefnogol i'r gwaith a hithau.
Elai Rhys Williams i ysgol Bron y fedw, er bod ohono yn aelod yn Nhynyweirglodd, hyd nes yr agorwyd y capel yn Rhyd-ddu yn 1825. Efe ydoedd arolygwr yr ysgol ym Mron y fedw, a gwnaed ef yn arolygwr ar ei ddyfodiad i Dynyweirglodd. John Davies yr Ystrad oedd yr ysgrifennydd.
Yng nghyfarfod gweddi nos Lun cyntaf y mis yn y flwyddyn 1829, nid oedd ond un brawd i gymeryd rhan gyhoeddus. Disgwylid fod y cyfarfod ar ben gyda'r pennill a rowd i ganu wedi iddo orffen ei weddi. Fel yr oeddid yn meddwl am gychwyn allan, dyma swn gweddi yn dod o un o'r seti. Marged Morgan oedd yno yn ymbil â'r Arglwydd am eu cofio. Y Sul dilynol y digwyddodd y tro hynod gyda Thomas Owen Llangefni. Y pryd hwn y daeth Owen Jones Hafod y wern, Dafydd Hughes Hafoty a John Davies yr Ystrad i'r golwg gyda chrefydd.
Prynwyd y capel a'r tŷ yn 1831 am oddeutu £150, fel y bernir.
Yn 1833 y ffurfiwyd yr eglwys. Y pregethwr cyntaf y talwyd iddo oedd David Jones Beddgelert, ac yr oedd hynny yn Hydref 13. Hydref 15 y gwnawd y casgl mis cyntaf, sef naw swllt. Rhagfyr 8, y bu'r cymun cyntaf, John Jones Talsarn yn gweinyddu. Dwy— waith y bu'r cymun yn 1834, a gweinyddwyd gan Mr. Lloyd a William Jones Rhyd—ddu. Gweinyddwyd bedair gwaith yn 1835.
Dyma'r taliadau cyntaf at y weinidogaeth (un oedfa): Hydref 13, David Jones 1s.; 20, John Wynn Caernarvon 1s. 6ch.; 27, Griffith Hughes Edeyrn 2s.; Tachwedd 3, Robert Williams Bont fechan 1s. 6ch.; 17, Michael Jones Llanberis 1s. 6ch.; 24, Hugh Roberts Bangor, 1s. 6ch.
Y blaenoriaid cyntaf,—Rhys Williams a John Davies. Yn ol a glywodd Mr. Williams nid oedd yr eglwys ar ei sefydliad, er dylanwad diwygiad 1831—2, ond oddeutu 30.
Teimlwyd diwygiad diwestol 1836 yma yn ei rym. O'r blaen arferid yfed cwrw ynglŷn â geni'r byw a chladdu'r marw.