Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/79

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

O'r blaen ni weinyddid disgyblaeth am feddwi achlysurol, os nad mewn achosion go eithriadol. Newidiwyd hyn i gyd gyda'r diwygiad yma.

Fe ddechreuwyd teimlo'r capel yn anghyfleus o fychan. Nid oedd y tir y safai'r capel arno yn caniatau ei helaethu. Awydd am gapel newydd, ac ofn rhag colli'r gwres wrth newid y fan. Cael addewid am y llanerch y saif y capel presennol arni, llanerch yr arferid ymryson saethu yno gynt ar brynhawn Suliau. Agor y capel gyda chyfarfod pregethu, Rhagfyr 3, 1841. Gweinyddwyd gan John Owen y Gwyndy, Richard Humphreys y Dyffryn, William Roberts Clynnog a John Jones Talsarn. Ni wyddys mo draul y capel a'r tŷ cysylltiedig, am y rheswm fod yr ardalwyr wedi gwneud llawer eu hunain gyda chario a chodi cerryg a gro. Eithr fe dalwyd £400 mewn arian.

Dywedir gan Mr. Williams fod John Owen y Gwyndy yma Rhagfyr 3 ar yr agoriad. Y mae'r sylw yma yn llyfr y cyfrifon, prun bynnag: Tachwedd 29 [28 yn gywir, sef y Sul] 1841. John Owen Penygroes Bethesda, bregethodd gyntaf yn y capel newydd. Ei destyn,—" Wele yr wyf yn sefyll wrth y drws ac yn curo, etc." Dat. iii. 20. Yn dilyn ceir y nodiad yma: "Y pennill cyntaf a ganwyd yn y capel newydd:—

1. O Arglwydd, gwna dy drigfan
O fewn i'r muriau hyn;
Byth na chyhoedder yma
Ond Iawn Calfaria Fryn.
Er mwyn yr Aberth hwnnw
A'r taliad gwerthfawr drud,
Llewyrcha'th wyneb grasol
Tra pery oes y byd.

2. Dy hyfryd bresenoldeb
Fo yma'n llanw'r lle.
A'r pur awelon nefol
Fel ffrwd lifeiriol gre'.
Pelydrau o'th ogoniant
A gwedd dy wyneb llon
Aroso yn ddigwmwl
O fewn i'r Salem hon."

Diwygiad dirwestol tymor y Clwb Du. Cyfarfodydd brwd a gorymdeithio o'r naill ardal i'r llall. Oeri wedyn.