gallu bod yn bresennol yn y seiadau mor gyson a John Davies, eithr fe ddengys nodiadau John Davies y lle arbennig oedd i'w gyd-swyddog yn arweiniad yr eglwys. Nid oedd Rhys Williams yn gyfartal â John Davies mewn dawn gyhoeddus, ond yr oedd iddo gyneddfau priodol iddo'i hun, a dylanwad cyffredinol, a roddai urddas arno ynghanol pawb yn y lle. Gellir dyfalu ei nodwedd neilltuol oddiwrth ei ddisgynyddion. Y noson o flaen y cynhebrwng. fe bregethodd Thomas Williams Rhyd-ddu oddiar Philipiaid i. 21: "Canys byw i mi yw Crist a marw sydd elw." (Ysgrif John Davies yr Ystrad yn y Drysorfa, 1862, t. 318).
Robert Williams Tŷ capel a ddaeth yma o Ddolgelley yn 1857, ac a fu farw yma yn 1864. Nid oedd yn flaenor, ond gwnelai waith gwir flaenor. Fe gysegrodd ei hun i wasanaeth yr Arglwydd. Bu'n famaeth dirion i ddychweledigion 1859. Fe arweiniai yng nghyfarfodydd gweddi y bobl ieuainc, a chynghorai a chyfarwyddai yno. Meddai ddawn neilltuol i dynnu allan y bobl ieuainc, fel y gwnaent unrhyw beth a ofynnai iddynt. Siaradai â hwy yn gyfrinachol am bethau pwysig, a pherchid ef ganddynt hwythau fel eu tad yng Nghrist. Byddai'n barod â'i brofigd melys yn y seiat. Un o ragorolion y ddaear ydoedd.
Yn 1867 fe ail-adeiladwyd y capel yn ei faint a'i ffurf presennol. Traul, £570. Prynwyd y tir yn rhydd-ddaliadol yn 1868 am 20. Swm y ddyled yn niwedd y flwyddyn, £457.
Yr oedd Owen Jones Hafod y wern yma yn ystod 1867-8 yn gwasanaethu fel blaenor. Symudodd oddiyma i Engedi. Rhoes anrhydedd ar ei swydd. Yr ydoedd yn flaenor yn Gaerwen cyn dod yma. Disgrifir ef gan Mr. Griffith Williams fel o far sicrach na John Davies. Yn wr pwyllog, call, o synnwyr cyffredin cryf. Yn wastad ei dymer. Un o'r athrawon goreu, ac yn holwr da. Ei brif lyfrau, Geiriadur Charles, James Hughes ac Adam Clarke. (Edrycher Engedi).
Yn ystod 1862-7 fe ddeuai Thomas Williams Rhyd-ddu a Dafydd Morris Caeathro yma yn o reolaidd i gynnal seiat. Yn 1872 dewiswyd John Owen Tŷ newydd yn flaenor. Symudedd oddiyma i Nazareth. Yn Chwefror, 1874, dewiswyd yn flaenoriaid, Griffith Williams a S. R. Williams.