Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/82

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yn 1882 y symudodd John Davies yr Ystrad oddiyma i'r Bontnewydd, wedi bod yn flaenor yma o'r cychwyn. Ganwyd ef tua 1810 yn yr Ystrad. Ei dad, Sion Dafydd, yn grefyddwr o rywiogaeth gyffredin. Ei fam, Sian Dafydd, oedd wraig fawr, esgyrniog, dal, ac o garictor nobl, ysbrydol ei dull, yn ymroddgar i grefydd, yn hoff o ganu, ebe Mr. Griffith Williams. Yr oedd John Davies o alluoedd cyflym, y cyfryw a fuasai yn ei alluogi i fanteisio yn amlwg ar gyfleusterau dysg. Eithr ni chafodd efe ddim o hynny. Olrheiniai ei droedigaeth i'r oedfa yn y Waen yn amser diwygiad 1831, y cyfeirir ati ganddo. Yn ol ei adroddiad sef ei hun wrth ei blant, fe ddychrynnodd gymaint y pryd hwnnw fel y neidiodd dros ddwy sêt, aeth o'r capel heb ei het, a rhedodd adref, gan weddio a chanu bob yn ail. Dywed Mr. Griffith Williams ddarfod i Owen Jones Hafod y wern gael tro yr un adeg, a'i fod ef a John Davies yn dod adref gyda'i gilydd, a darfod iddynt droi i feudy Bryn y gloch i weddio gyda'i gilydd, a phenderfynu ill dau y pryd hwnnw ymroi i grefydd. Ymroes John Davies i ddarllen, gan brynu ei ganwyllau ei hun, ac aros yn ei ystafell gyda'i lyfrau, weithiau am oriau. Daeth yn arweinydd y gân yn fuan, ac yr oedd yn arweinydd medrus, gyda llais clir, soniarus, er nad ystyrrid ef yn garolwr. Fe gyfansoddai ambell bennill, ac ymhyfrydai mewn rhigymu. Fe geid disgrifiadau barddonol ganddo weithiau yn anerchiadau, ac ar dro yn ei weddïau. Bu'n ysgrifennydd yr eglwys am yn agos i hanner canrif, a danghosai y llyfrau cyfrifon a gadwai drefn, glanweithdra a manylwch. Teithiodd lawer i'r Cyfarfodydd Misol cyn y rhaniad ar y sir, cystal ag wedi hynny, ac yr oedd yn dra theyrngarol i'r Cyfundeb. Yn fanwl ei gadwraeth o'r Saboth, yn gryf yn erbyn y ddiod feddwol a thybaco, ac yn tueddu yn hytrach at fod yn gyfyng ei olygwedd ar fywyd. Yn offeiriad yn ei dŷ ei hun, a rhai o'i weddïau, yn arbennig, yn gadael argraff arhosol ar ei deulu. Ar ol symud Rhys Williams, efe oedd bellach yr arweinydd yn yr eglwys. Gadawai gynhaeaf gwair i ddod i'r seiat, ac yr oedd yn brydlon ym mhob cyfarfod. Yn fedrus iawn yn ei ffordd ei hun wrth gadw seiat. Nid elai o'r sêt fawr wrth arwain. Y chwiorydd a holid ganddo yn gyffredin, ebe Mr. Griffith Williams; gyda hwy y cawsai ddeunydd seiat y fath a gymeradwyai ei chwaeth ef yn fwyaf. Gofynnai i Mari Williams Cwm bychan, a fedrai hi gyfeirio at adeg neillduol yn ei phrofiad ? "Wel," ebe hithau, "mi fydd y llwch ar y drecsiwn weithiau, weldi, fel ar bwysau y glorian acw, fel y bydd agos a mynd o'r golwg, ond yn