cael ei chwalu ymaith drachefn, a'r drecsiwn yn dod yn amlwg." Ebe John Davies yn ol, "Cael eich hunan gyda chrefydd ddarfu chwi. 'Dydi'r plentyn ddim yn cofio ei stori gyntaf, ond cael ei hun yn siarad y mae. Felly chwithau." Nid yw hynny yn ymddangos yn gwbl gyson â hanes troedigaeth John Davies ei hun; and dyna ddull uniongred y Cyfundeb yng nghyfnod John Davies. Ystyria Mr. Griffith Williams fod ei allu i gyfleu ei fater yn fwy na gogyfartal i'w allu i feddwl, a bod hynny i'w ganfod ynddo fel holwr ysgol. Byddai'n dueddol o fod wedi crynhoi ygnhyd ei ymadferthoedd i'r Sul cyntaf fel holwr. Holai mor dda, fel y tebygasid y buasai'n anhawdd i neb wneud yn well. Ond nid allai gynnal yr hwyl uchel honno dros y Suliau dilynol. Byddai sylwadau o'i eiddo yn ei weddïau yn bachu yn y cof, ebe Mr. Griffith Williams. "Dyma ni ym Mhorth y Nef! Y mae hi'n dda yma. Beth pe baem ni i mewn!" "Gwared ni rhag ymddangos. Y mae yna Un yn ymddangos drosom ni." Ymhyfrydai ym Mathew Henry, James Hughes, Gurnal, Taith y Pererin, a rhai o weithiau Baxter, Howe a'r Dr. Owen. A gwnelai yn fawr o'r Hyfforddwr a'r Gyffes Ffydd, fel ag i beri eu bod yn o daclus yn ei gof. Dan bregeth yn cyffwrdd ag ef, byddai ei gorff i gyd, fel yr eisteddai dan y pulpud, yn ymnyddu mewn mwynhad, a chwareuai arwydd ei gymeradwyaeth fel gwenol gwehydd, ar draws ei wynebpryd o gwrr i gwrr. Byddai pregethwr â thinc yn ei lais yn ei ogleisio'n deg, ac yr oedd Thomas Hughes Machynlleth, yn ei rym, yn ddihafal wr yn ei olwg. Fe wreiddiodd mor ddwfn yn Salem, fel y bu ei symud yn wir gyfnewidiad ar bethau yn y lle.
Dodir yma sylw Mr. Griffith Williams ar Farged William, gwraig weddw, a gadwodd y tŷ capel am 50 mlynedd, ac oedd yn dra gofalus am y pregethwyr. Bu'n athrawes efo'r plant yn nosbarth yr A B dros 40 mlynedd. Yr oedd iddi dalent arbennig gyda dysgu'r plant: enillai eu serch, a gadawai ol ei haddysg arnynt.
Yn Nhachwedd, 1882, derbyniwyd i'r Cyfarfod Misol ym Mhenmaenmawr fel blaenoriaid, Henry Owen Cae sgubor a Robert Williams Cwmbychan. Yn 1887 dewiswyd R. T. Hughes Plas isaf i'r swydd. Yn 1889 symudodd John Jones yma o'r Baladeulyn, a galwyd ef yn flaenor yma.