Yn 1890 adeiladwyd y tŷ capel presennol ar draul o £195.
Ym Mehefin 1891 yr ymgymerodd Mr. Rhys Lewis â bugeiliaeth yr eglwys.
Rhowd nenfwd newydd yn y capel yn 1894 ar draul o £92 5s. 8g. Gwnaed atgyweiriadau oddifewn ac allan, a phwrcaswyd offeryn cerdd, yn 1896, ar draul o £99 10s. rhwng y naill a'r llall. Swm y ddyled yn 1900, £50.
Dewiswyd J. D. Jones yn flaenor yn 1899. A'r un flwyddyn, Awst 11, y bu farw John Jones Plas isaf, yn 62 oed. Brodor o Landwrog. Argyhoeddwyd ef dan weinidogaeth John Jones, Mochdre y pryd hynny. Galwyd ef yn flaenor yn y Baladeulyn yn 1887. Torrai i lawr yn aml wrth son am flynyddoedd ei oferedd. Tinc y wir fetel ynddo ar weddi. Dywedai wrth ei fab at y diwedd ei bod yn "all right " arno. (Goleuad, 1899, Awst 23, t. 7.).
Gwerthwyd capel Tynyweirglodd i Eglwys Loegr i gynnal ysgol ddyddiol. Edrydd Mr. Edward Owen yn ei ysgrif ar Ysgol Sul Rhyd-ddu am blant ysgolion cenhedlaethol y Waen, Cwmyglo, Llanrug, Bontnewydd a'r Betws yn cael eu haroli yn y Waen yn y bennod gyntaf o Efengyl Ioan, yn amser John Griffith yr athraw cyntaf. A dywed ef fod plant y Betws (cynrychiolid pob ysgol gan 14 o'r plant hynaf) yn ateb pob cwestiwn wedi methu gan y lleill. Cofier yr un pryd fod 5 o'r 14 hynny yn blant o Ryd-ddu, gan yr elai Rhyd-ddu gyda Salem fel un ysgol. Yn y flwyddyn 1866 adeiladwyd ystafell i gadw ysgol ddyddiol berthynol i'r capel ar draul o £50. Bu amryw o'r ysgolfeistriaid yn wasanaethgar i'r achos. John Williams, a ddaeth yma o Feddgelert, wedi hynny gweinidog Siloh, Caernarfon, a fu yma am ran o 1867-8, ac a wnaeth waith da. Yn nechre 1869 daeth W. T. Jones (Llanbedrog) yma, ac a lafuriodd gyda'r plant. J. R. Williams (Pwllheli) a fu yma yn 1870-2, ac yna Moses Jones (Bala) hyd 1873, y naill fel y llall â'i wasanaeth i'r eglwys yn werthfawr.
Ymweliad â'r ysgol Sul, Hydref 11, 1885. "Ysgol fechan weithgar yr olwg arni. Anghyfartaledd yn rhif rhai o'r dosbarthiadau ieuengaf. Rhai o ddosbarthiadau y merched yn dangos gallu anghyffredin i esbonio, ond y darlleniad braidd yn wallus. Mewn