Gwirwyd y dudalen hon
un dosbarth o ddynion, pob aelod o'r dosbarth yn gofyn ei gwestiwn i bob un yn y dosbarth, a'r athraw yntau yn gofyn ei gwestiwn yn ei dro. Yr athraw yn cael ei guddio o'r golwg. Y cwestiynau a'r atebion yn gyffredin, a'r darllen yn wallus ac aneffeithiol. Dosbarth o fechgyn o 20 i 25. Diffyg pwyslais wrth ddarllen, ac heb dalu sylw priodol i'r gwahan-nodau. Dosbarth o ddynion canol. oed heb athraw. Yr un diffyg yma eto. Diffyg llafur ar gyfer y dosbarth, ac ar gyfer arholiadau y Cyfarfod Misol a'r Cyfarfod Ysgolion. Yr arholi a'r atebion ar ddiwedd yr ysgol yn wir dda."
Er bod ar y cyntaf yn fangre erledigaeth, daeth Salem yn y man yn fangre heddwch; a phabell Duw a welwyd yma.
Rhif yr eglwys yn 1900, 120.