Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/86

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

CEUNANT[1]

Dechreuwyd cynnal Ysgol Sul yma oddeutu'r flwyddyn 1820 mewn hen anedd-dy o'r enw Tanyffordd, a breswylid gan John Williams, gynt o'r Tyddyn rhuddig. Fe'i cyfrifid ef a'i wraig ymhlith y ffyddloniaid gyda chrefydd. Edward James Bryn crwn oedd yr arolygwr tra cynhelid yr ysgol yma. Ymhen oddeutu dwy flynedd fe'i symudwyd i hen ysgubor Tanygraig. Fe ychwanegwyd rhai dosbarthiadau o newydd yma. Cadwai Robert Williams Pant-hafodlas ei ddosbarth o blant bach yn yr hen simne fawr, a dodai'r plant i eistedd ar y pentan. Yn ymyl y plant hyn yr oedd dosbarth o ddynion dros ddeugain mlwydd oed, hwythau hefyd, fel y plant, yn dysgu'r wyddor, a Thomas Parry 'Rallt yn athraw iddynt. Byddai y rhai hyn mewn cymaint afiaeth gyda'u gwers yn eu ffordd hwy a'r plant bach gerllaw iddynt. Wrth eu profi ar ddull go ddyrus unwaith, ac yntau'n gweled ei hunan yn dal y prawf yn deg, ebe un o honynt, Mi ddaliwn fy mhrofi yn yr A B yma ac i'r llyfr fod ar ben y Garreg lefain! Athrawon eraill, oedd Thomas Jones Hafodlas, tad yr un diweddarach, John Morris a John Parry, y ddau o'r Pen-hafodlas, Thomas Griffith Ceunant, John Jones Tanygraig, Richard Peters Penygraig, a Robert Jones Hafodlas yn arolygwr. Heblaw yr arolygwr, John Morris a Thomas Jones a Robert Williams yn unig a broffesent grefydd ar y pryd.

Ymhen o dair i bedair blynedd fe ddaethpwyd i'r penderfyniad i wneud cais am ysgoldy yn lle'r hen ysgubor. Gwrthwynebid y cais yn y Cyfarfod Ysgolion gan Ysgol Llanrug. Bu John Morris a Richard Peters am flwyddyn gyfan yn apelio yn ofer at y Cyfarfod Ysgolion. Yr oedd dwy filltir o ffordd i Lanrug. Cymerodd y ddau frawd hyn gyfrif, gan hynny, o'r holl blant a gwragedd yn yr ardal nad ellesid disgwyl iddynt fyned mor bell a Llanrug, ond y disgwylid eu cael i ysgoldy o'r fath a geisid. Yr oedd y nifer yn ddigonnol er ennill i'w plaid wr o ddylanwad yn y Cyfarfod Ysgolion, sef John Roberts Castell, Llanddeiniolen, a throdd y ddadl o'r diwedd gyda hwy. Ymgymerwyd âg adeiladu'r ysgoldy yng ngwanwyn 1825. Ni ddaeth i feddwl neb, hyd yr ymddengys,

  1. Hanes Eglwys y Ceunant [hyd 1878] gan Robert Parry. Cofnodion eglwysig gan y Parch. Edward Roberts. Nodiadau gan gyfeillion o'r lle.