i sicrhau prydles ar yr eiddo, namyn cael caniatad y Parch. P. B. Williams Pantafon yn unig i adeiladu. Cafwyd help sylweddol i ddwyn y treuliau gan John Parry Penhafodlas, gweithiwr cyffredin o ran ei alwedigaeth, ond gwr o gyfoeth ymhlith ei gydweithwyr.
Nid oedd yr ysgoldy ond bychan, ond fe wthid i mewn iddo wyth o ddosbarthiadau ar ochr y meibion, ac wyth ar ochr y merched. Thomas Jones Hafodlas oedd athraw yr AB ar ochr y meibion; John Morris yr A, B, AB; Richard Peters Penygraig gyda dynion mewn oed, ar ol gyda dysgu; Thomas Parry, 'Rallt, y sillebu a'r llyfrau i rai'n dechre; John Thomas Hafodlas, y Testament; John Parry Pen-hafodlas, y Beibl. Arferai John Parry roi ceiniog am ddysgu allan, yr hyn fu'n symbyliad i ddechre at fedru darllen y Beibl, ac yna i'w drysori yn y cof. Hugh Hughes Brynglas oedd athraw y bechgyn fedrai ddarllen yn dda; a John Griffiths Tanygraig yn athraw ar athrawon, pan fyddai eu heisieu. Owen Jones Adwy'r ddeugoed a ddysgai enethod bach yn yr A B. Efe fynychaf roddai'r pennill allan ar ganol yr ysgol, ac a arweiniai gyda'i ganu. Dechreuai ganu braidd cyn gorffen ledio'r pennill, mewn goslefau tarawiadol,
Wele, fod brodyr yn byw ynghyd,
Mor dda, mor hyfryd ydoedd!
Ar ddosbarthiadau eraill y merched, yn ateb mewn trefn i rai'r meibion, fe geid yn athrawon, Thomas Griffith Ceunant, Jane Jones Penygraig (gwraig Richard Peters), Hugh Griffith Tainewyddion, Ann Jones 'Rallt, Robert Williams Pant-hafodlas, Lydia Parry Pen-hafodlas, Grace Jones Tanyffordd, yn cael ei chynorthwyo gan Edward James Bryn crwn. Ys dywed Morgan Llwyd am yr hen athrawon.
Iraidd oeddynt rai'n eu hamser.
Fe aeth pethau ymlaen yn dawel a hamddenol am o bedair i bum mlynedd. Cynhelid yr ysgol ar bnawn Sul, a'r cyfarfod gweddi bob yn ail nos Sul, a'r cyfarfod gweddi wythnosol. Bob yn ail nos Sul y ceid pregeth yn "hen gapel y Rhos," fel y gelwid capel Llanrug. Arferid cynnal cyfarfodydd gweddi yn y tai yn flaenorol i dymor yr ysgoldy, a pharheid i'w cynnal. Cynhelid hwy yn fynych yn enwedig yn y 'Rallt, oherwydd llesgedd