yr hen wraig dduwiol, mam Ann Jones yr athrawes, a dorrai allan mewn gorfoledd pan fyddai y cyfeillion yn agoshau i'r tŷ, gan waeddi, Pa fodd y daeth hyn i mi? O'r pedwar brawd crefyddol fe fyddai tri oddicartref yn ystod yr wythnos gyda'u gwaith. Eithr fe wir ofalai John Morris am y cyfarfod gweddi wythnosol, a deuai y chwiorydd crefyddol i'w gymorth. Yr oeddynt yn naw mewn nifer, ac fe ddodir eu henwau i lawr yma, fel y byddo'r hyn a wnaeth y rhai hyn yn cael ei adrodd am ysbaid un oes o leiaf. Dyma hwynt: Elizabeth Owen Coldŷ, Ann Pritchard Adwy'r-ddeugoed, Ann Jones 'Rallt, y ddwy Elizabeth Jones Hafodlas, Lydia Parry Penhafodlas, Elin Parry Pant hafodlas, Jane Jones Penygraig a Grace Jones Tanyffordd.
Un tro fe wnaeth John Morris apwyntiad â gwr y prynodd fuwch ganddo, i'w gyfarfod ar noswaith y cyfarfod gweddi, a hynny mewn llwyr angof o'r cyd-ddigwyddiad. Pan ddaeth hynny i'w feddwl bu mewn cryn wewyr. Eithr fe gofiodd y deuai Thomas Griffith y Ceunant y ffordd honno at ei waith, a phenderfynodd ofyn iddo ef, er nad ydoedd yn grefyddwr, fyned i'w le ef, i'r cyfarfod gweddi, a rhoi allan emyn a darllen pennod ac yna galw ar y chwiorydd i weddio. Addawodd yntau fyned. Eithr wedi myned nis gallasai ymysgwyd i wneud ei ran yn y cyfarfod, a disgwylid yn hir ac yn bryderus am John Morris. Teimlodd Thomas Griffith i'r byw wrth weled y fath bryder am ymddanghosiad y gwr, ac yn y man dyma ef ar ei draed, gan egluro na ddeuai John Morris ddim y noswaith honno. "Mae'n gwilydd i ni," ebe fe'n mhellach, "fod cymaint o honom yn disgwyl wrth un dyn; nid yw enaid John Morris yn fwy gwerthfawr na'r eiddom ninnau, ac nid oes mwy o rwymau arno ef i weddïo na ninnau. Gwir y darfu iddo ef ofyn i mi ddarllen pennod, a chanu emyn i ddechre, ac yna galw ar y chwiorydd i fyned ymlaen, ond yn wir," ebe fe'n bwysleisiol, "nis gallaf gan gywilydd ofyn y fath neges a hon." Llefarai mewn teimlad amlwg, fel yr oedd lliaws mewn dagrau. Pwysodd Elizabeth Jones Hafodlas, mam Thomas Jones, ar iddo ymgymeryd â'r gwaith a rowd arno, ac yr elai hithau i weddi, a gwnaeth yntau hynny. Wedi'r weddi, gorfu arno roi pennill allan a darllen drachefn o flaen gweddi arall. Troes y cyfarfod hwn allan yn un go anarferol. Ni ddaeth Thomas Griffith am ysbaid i broffesu crefydd, ond yr oedd yr argyhoeddiadau a brofodd efe yn ddilynol wedi eu cychwyn yma.