Yn union ar ol hyn fe ddechreuwyd teimlo rhyw gynnwrf yn y gwersyll, a daeth amryw i broffesu crefydd, ac yn eu plith, ac yn un o'r rhai cyntaf, John Roberts Gorseddau. Ac ar gefn hynny, drachefn, y torrodd allan ddiwygiad 1830-2. Ymhlith y plant yn yr ardal hon y torrodd y diwygiad hwnnw allan. Enciliodd lliaws o'r plant hynny oddiwrth y broffes a wnaent ar y pryd, er ddarfod i rai ohonynt yn ddiweddarach ail-ymaflyd mewn crefydd a dod yn addurn iddi. Yn y man fe ddeuai pobl hŷn yn aelodau yn eglwys Llanrug. Erbyn diwedd 1832, yr oedd y rhai canlynol yn aelodau, oll yn dal cysylltiad â'r ysgoldy: Hugh Griffith Tai newyddion, Thomas Parry 'Rallt, Richard Jones Caeglas, William Hughes Tŷ canol, Hugh Jones Merddyn, Hugh Williams Tŷ isaf, Thomas Griffith Ceunant a Richard Peters Penygraig. Yr oedd Henry Jones Hafodlas erbyn hyn wedi dod yma i fyw ac yn proffesu.
Fe dynnodd John Morris ei gŵys i'r pen heb edrych yn ol. Ystyrrid ef y galluocaf o'r pedwar brawd crefyddol a lafurient yn yr ysgoldy. Y pennill hoffai roi allan ar nos Lun cynta'r mis fyddai, "Bydd mynydd tŷ ein Harglwydd ni." Bu farw ddiwedd Mawrth neu ddechre Ebrill, 1834, ymhen naw mlynedd ar ol adeiladu'r ysgoldy.
Fe fu Thomas Jones Hafodlas, tad y gwr o'r un enw, yn arolygwr yr ysgol am flynyddau. Yn ei areithiau dirwestol fe ymosodai ar y dybaco cystal a'r ddiod, a rhoddai iddo'r enw, "yr hen lwynog blewsych." Yn ei weddïau fe ddiolchai yn fynych am fod ei goelbren wedi disgyn ar ochr y Cefn du. O bosibl na chafodd efe achos ychwanegol i fyfyrio ar hyfrydwch ei randir ar yr hen Gefn pan na fynnai ei atal rhag trawsforio i'r America. Robert Jones Hafodlas oedd o gyfansoddiad eiddilach na llawer, a meddwl cryfach, ond ni luddiwyd ef rhag bod yn hynod ffyddlon gyda'r ysgol dros dymor.
Y seiat gyntaf a gynhaliwyd yn yr hen ysgoldy yn nechre haf 1832 ar nos Sadwrn, a phwy ymgymerodd â phroffes o grefydd y noswaith honno ond Thomas Griffith y Ceunant. Yr oedd Daniel Jones Llanllechid yn pregethu yno ar y pryd, ond yr oedd Thomas Griffith wedi mynegu ei awydd i John Morris am gael cyflwyno ei hunan yn aelod yno yn hytrach nag yng nghapel y Rhos, a dyna