88 HANES METHODISTIAETH ARFON. fel y digwyddodd cynnal y seiat. Ymhen oddeutu tair blynedd fe'i neilltuwyd ef yn flaenor yn Llanrug. Yr oedd craffter ei feddwl a gwastadrwydd ei gymeriad yn gyfryw ag i'w wneud y dylanwad mwyaf yn yr ysgoldy, a thrwy ei lafur gyda'r plant fe fagodd dô o ieuenctid a lanwasant gylchoedd anrhydeddus mewn blynyddoedd i ddod. Wedi dewisiad Thomas Griffith yn flaenor yn 1835, fe geid. pregeth yn achlysurol yn yr ysgoldy. Griffith Jones Tregarth a arferai son am oedfa iddo ef yno. Fe ddisgrifiai ei hun yn y pulpud. Yr oedd ceuedd yn y mur ar ffurf bwaog, a bron y pulpud heb ddod allan nemor ffordd oddiwrth y mur, fel y gwelai Griffith Jones ei hunan, oblegid ei faintioli, megys wedi ei doddi i'r lle, ac ofnasai am ei goryn, pe digwyddasai anghofio ei hunan ychydig a myned i fymryn o hwyl! Eithr fe awd i anesmwytho am le eangach. Rhag ofn y draul, galwai rhai yn unig am helaethiad ar yr hen ysgoldy. Pender- fynwyd y ddadl gan John Parry Pen hafodlas, gan yr addawai ef bunt at helaethiad a deg punt at gapel newydd. Sicrhawyd pryd- les y tro hwn am 99 mlynedd o 1839. Yr ymddiriedolwyr oedd: Hugh Griffith Tai newyddion, Richard Peters Penygraig, Robert Williams Pant-hafodlas a Hugh Jones Merddyn. Cwblhawyd y capel yn gynnar yn haf 1839, medd Robert Parry. Eithr y mae y Drysorfa am Mai, 1839, yn rhoi rhif aelodau eglwysig y Ceunant fel 30. A chan mai ar ol codi'r capel y ffurf- iwyd yr eglwys, rhaid bod y capel wedi ei agor cyn sicrhau'r brydles, yr hyn a ddigwyddodd aml waith. Dywed Eiddon Jones hefyd nad oes enw neb o'r Ceunant yn llyfr casgl gweinidogaeth Llanrug am 1838. Mae'n ddiau mai 1837 yw blwyddyn adeiladu'r capel a ffurfio'r eglwys. Awyddid yn y Ceunant am fod ar wahan i Lan- rug. Gyda pheth gwrthwynebiad, fe sefydlwyd yr eglwys yn Awst o'r un flwyddyn ag yr agorwyd y capel. Yn y flwyddyn nesaf fe wnawd cais at y Cyfarfod Misol am ragor o flaenoriaid, er cynnorthwyo Thomas Griffith. Dewiswyd Hugh Griffith a Robert Williams. Dros ryw dymor ar ol yr ymadawiad â Llanrug arferid cael pregethwr oddiyno; ond wedi hynny ymgysylltwyd â'r Waen-
Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/90
Gwedd