fawr. Wedi hynny gwnaed yr hen ysgoldy yn dŷ capel. Penodwyd Richard Rowlands a Mary Williams ei wraig i ofalu am y tŷ capel. Byddai Mary Williams yn fynych mewn hwyl gorfoledd yn y capel, ond erbyn dod i'r tŷ nid mor ofalus ydoedd am lanweithdra.
Fe ddaeth y Cyfarfod Misol cyntaf i'r Ceunant yn 1845. Yr oedd Owen Thomas a John Phillips, y ddau o Fangor, John Jones Talsarn a William Roberts Clynnog yno yn pregethu. Yn yr oedfa ddeg y pregethodd Owen Thomas oddiar y geiriau, "Onid oedd ein calon yn llosgi ynom, tra yr ydoedd yn ymddiddan â ni ar y ffordd," testyn un o oedfaon mawr ei oes yn Sasiwn Caernarvon. Yr oedd yn agos i ddeuddeg ar y gloch pan orffennodd, ac ni wnaeth John Jones namyn terfynu'r oedfa trwy weddi. Yr oedd pregeth John Phillips yn un ryfeddol oddiar, "Trefna dy dŷ, canys yforu marw fyddi, ac ni byddi byw," ac hefyd pregeth William Roberts ar y Ffigisbren Ddiffrwyth. Cyfarfod Misol i'w hir gofio oedd y cyntaf hwn yn y Ceunant.
Yn 1846 y bu farw Robert Williams Pant hafodlas, wedi gwasanaethu'r swydd o flaenor am o bum i chwe blynedd. Yr oedd o nwyf wresog ond oriog, weithiau'n isel iawn weithiau'n uchel iawn. Yn ystod yr un flwyddyn, fe ddewiswyd yn flaenoriaid, Thomas Jones Tanygraig ac Edward Roberts, yr hwn a ddechreuodd bregethu yn ddiweddarach.
Bu cyfnewidiad am dymor byr yn nhrefn y daith. Unwyd y Ceunant, Waenfawr, Caeathro, Salem a Rhyd-ddu. Eithr ni atebodd mo'r drefn hon, a dychwelwyd yn ol i'r cysylltiad â Waenfawr. Un bregeth a geid ar y Sul, ond ar ol hynny ddwy ar un Sul o'r mis.
Ail godwyd y tŷ capel ar furiau yr hen ysgoldy ym mis Mawrth, 1849. Sicrhawyd gwasanaeth Richard Roberts, wedi hynny o Bryn'refail, i'r tŷ capel. Rhif yr eglwys y pryd hwn ydoedd o 48 i 50, nifer bychan braidd i ymgymeryd â'r treuliau parhaus, ond fel yr oedd yn yr ardal liaws o ddynion ieuainc ewyllysgar i weithio gyda'r achos. Ymffurfiodd y gwyr ieuainc hyn yn gôr canu dirwestol dan arweiniad Robert Griffith Tai newyddion, a chanhaliwyd ganddynt liaws o gyfarfodydd dirwestol yn y wlad oddiamgylch.