Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/96

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ceunant pan yn ddeunaw oed. Bu'n pregethu am 32 mlynedd. Pregethwr buddiol, sylweddol. Yn y cyfarfod eglwysig y ceid ef ar ei oreu. Arlwyai yno wledd, a chydrhyngddo ef ac Elizabeth Hughes Merddyn, fe deimlai aml un ei phiol yn llawn. Am rai blynyddoedd fe gadwai gofnod presenoldeb pob aelod yn y seiat, ynghyd a sylwedd y profiadau, gan roi crynhodeb o'r cyfan ar ddiwedd blwyddyn. Fel yr Apostol Paul mewn rhai eglwysi, felly Edward Roberts yn y Ceunant a wnaeth waith bugail heb unrhyw dâl mewn arian. Ei orfoledd oedd tystiolaeth ei gydwybod. Ofnodd Dduw o'i ieuenctid. Gwas ffyddlawn a doeth, ac yn ofni Duw yn fwy na llawer.

Wele gofnodion Edward Roberts ger ein bron! Maent yn dechre gyda dechre 1880, ac yn diweddu gydag Ionawr 29, 1885. Mae cofnod presenoldeb pob aelod ar lyfrau eraill, ac wedi eu cadw yn fanwl. Gan fod cofnodion o seiadau yn dra phrin, hyd y gwyddis, fe roir rhyw gymaint o le iddynt yma, sef i bigion bethau. Nodir pwy a gymerodd ran, a phwy adroddodd brofiad. Rhif yr aelodau yn 1880 ydoedd 132, ac yn 1885, 110.

"1880. Ionawr 22. Elizabeth Roberts Ty'nllwyn: Och fi! canys benthyg oedd.' Mai benthyg oedd pethau'r ddaear, ac y dylai hi fod yn ofalus pa fodd i'w defnyddio; a'i bod yn teimlo mai ymgynghori â gwr Duw a gair yr Arglwydd oedd y goreu iddi hi yn wyneb ei mawr ddiffygion. Chwefror 25. Adroddwyd profiad Jane Williams Tainewyddion oedd yn wael. Dywedai y treuliai nosweithiau i ddiolch i'r Arglwydd. Ebrill 14. Adroddwyd o'r Cyfarfod Misol ar ol hen flaenor ymadawedig o Hermon, pe buasai efe wedi llafurio cymaint am brofiad ysbrydol ag a wnaeth i ddeall pynciau crefydd, y buasai wedi cael llawer mwy c gysur iddo'i hun a bod yn gyfrwng mwy o gysur i eraill. Ebrill 28. Elizabeth Griffith Hafodlas a ddywedai y buasai wedi digalonni rhag dyfod i'r seiat y noswaith honno, onibae i ddarn o adnod ddod i'w meddwl,—"A threiswyr sydd yn ei chipio hi."

"1881. Chwefror 2. Profiad crefyddol disglair Mary Hughes Tŷ canol wedi cyffroi Thomas Parry Tŷ canol i geisio ymarfer ei hun i dduwioldeb. Gwyddai ef mai felly yr oedd hi wedi llwyddo; mynnai drwy bob trafferth gael hamdden i ddarllen ei Beibl, ac i