Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/95

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hoeddus. Gair mawr gydag ef oedd "windio wrth angeu y groes." Meddai ysbryd maddeugar: tynnai ymaith o'i galon bob gwreiddyn chwerwedd. Gofalai am y plant; ymwelai â'r cleifion. Yr oedd ei bresenoldeb yn taenu sirioldeb ymhob cynhulliad; rhoddai fywyd yn y cynhulliad eglwysig yn arbennig, a meddai ar ddawn i arwain yr ymddiddan. Noswaith cyn marw adroddodd bennill nodweddiadol o'i brofiad: "Wrth edrych Iesu ar Dy Groes, a meddwl dyfnder d'angeu loes."

Yn 1880 y penodwyd Thomas Parry Tŷ canol, John Lloyd Brynglas a William Hughes Tanyffordd yn flaenoriaid. Bu farw Robert Parry Rhagfyr 29, 1883, wedi bod yn y swydd o flaenor am yn agos i naw mlynedd. Mae'r hanes am yr achos yn y Ceunant yn dra dyledus iddo ef oherwydd ei sylw manwl ar bethau, a'i arfer o gofnodi amgylchiadau. Ac nid cofnodwr yn unig ydoedd, ond yr hyn na cheir yn fynych mewn cofnodwr, sef cyfnewidiwr, pan fyddai galw am hynny. Gwelai pan fyddai angen cyfnewid yn nhrefn pethau, ac yr oedd ganddo ddigon o awdurdod i ddwyn y cyfryw gyfnewidiad oddiamgylch. Yr oedd yn arweinydd mewn byd ac eglwys. Llafuriodd gyda'r bobl ieuainc, er eangu eu gwybodaeth yn wladol a chrefyddol. Ei bwyll a'i arafwch oedd hysbys i bob dyn, a'i ysbryd barn a chyngor.

Nid oedd ond gweithiwr, nac oedd, ond
Yr oedd yn weithiwr! berr ei hyd
A fu ei oes, ond rhoes ei llond
O ystyr da a llafur drud.—(Alafon).

Mawrth 16, 1884, y bu farw John Hughes Merddyn, wedi bod yn flaenor yn y Ceunant am ugain mlynedd, ac yng Nghwmyglo cyn hynny am rai blynyddoedd. Cyflawn mewn cymhwysterau; yn gyfranwr hael; yn wr o farn, yn ysgrythyrwr da, ac yn dra gwasanaethgar gyda'r ysgol Sul. Yn amlwg yn ei fisoedd diweddaf ei fod yn teimlo yn ei ysbryd oddi wrth nerth y gwirionedd. Yr un flwyddyn ag y bu farw ei dad y galwyd Hugh J. Hughes Merddyn yn flaenor; ac ar ei ymadawiad ef i Gaernarvon y galwyd ei frawd, Griffith J. Hughes, i'r swydd yn 1888.

Chwefror 5, 1885, y bu farw y gweinidog, y Parch. Edward Roberts, yn 57 mlwydd oed. Yr oedd wedi ei alw yn flaenor yn y