Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/94

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

holwyddori: byddai rhoddi mwy o fywyd a chyfeiriad i'r holwyddori gyda'r plant yn sicr o fod yn fuddiol. Gydag anogaeth gyhoeddus o'r pulpud, a mynych ymweliad â'r rhai sy'n esgeuluso, gellid yn hawdd chwyddo rhifedi yr aelodau. John Davies Caernarvon, Pierce Williams Waenfawr, John Roberts Bontnewydd."

Yn 1867, hefyd, y dechreuodd W. T. Jones Hafodlas bregethu. Aeth yn genhadwr i Enlli yn 1875. Yn 1867 y daeth John Jones yma o Drefin, cyn hynny o Hebron, Llanberis. Bu'n flaenor yn Hebron a Threfin, a chodwyd ef i'r swydd yma.

Bu'r hynafgwr dyddorol, Evan Evans Hafodlas, farw yn y gymdogaeth hon, Ionawr 28, 1870, yn 95 mlwydd oed, wedi trigiannu yma am oddeutu ugain mlynedd. Ganwyd ef gerllaw y Bala, ac yr oedd gyda'r Methodistiaid, er yn lled gynnar ar eu hanes, ym Mhwllheli, Nant Lleyn, Caernarvon a Bangor, ac yn un o'r sylfaenwyr yn y lle diweddaf. Gwr hysbys yn arwyddion yr amseroedd, ac yn addfedu o ran ei brofiad o grefydd.

Wedi dechre pregethu yma yn y flwyddyn 1853, fe alwyd Edward Roberts Tanrallt yn fugail ar yr eglwys yn 1870.

Mae nodyn yn y Goleuad am Awst 30, 1873, ar y Ceunant gan Ymwelydd. Cyfeiria at benderfyniad yr eglwys ychydig wythnosau yn flaenorol i harddu y capel a'i adgyweirio ychydig, a bod rhai o ferched ieuainc yr eglwys wedi casglu'r swm o £23 at yr amcan. Dywed, hefyd, fod y Temlwyr Da yn gweithio yn ardderchog yma, a bod y cyfarfodydd a gynhelid yn rhai o nodwedd fuddiol. Yn 1875 y gwnawd Robert Parry Panthyfryd a John Hughes Pantycoed yn flaenoriaid.

Yn y flwyddyn 1879 y bu farw y ddau Thomas Jones. Thomas Jones Hafodlas yn Awst 16, yn 55 mlwydd oed, wedi gwasanaethu'r swydd o flaenor am ugain mlynedd. Selog, ffyddlon, cydwybodol yng ngwaith yr Arglwydd, ac o farn addfed, ac yn wr o gyngor. Thomas Jones Tanygraig yn Nhachwedd 22, agos yn 65 mlwydd oed, wedi bod yn flaenor am 33 mlynedd. Argyhoeddwyd ef, mewn modd a adawodd ei argraff arno ar hyd ei oes, wrth wrando ar John Elias. Ar brydiau fe dorrai allan mewn gorfoledd cy-