Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/98

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn gymeradwy ger dy fron, O Arglwydd, fy nghraig a'm prynwr.' 'Nac ofna, braidd bychan, canys rhyngodd bodd i'r Tad roddi i chwi y deyrnas.' Sylwadau ar derfyn y flwyddyn. 19 heb gael seiat o gwbl; 20 eraill heb gael pum seiat. Presennol ar gyfartaledd, 37.

"1884. Ionawr 30. Gormod o areithio. Mawrth 26. Dywedwyd gair oddiwrth yr hen chwaer hynod Elizabeth Hughes. Y doctor yn dweyd ei bod yn gwella. Yr hen chwaer yn wylo nes fod dillad y gwely o'i deutu yn wlybion. Gofyn iddi paham? Hiraeth am Iesu Grist. Meddyliais fy mod yn mynd ato, ond dyma'r doctor yn dweyd fy mod yn well.' Hi a gymhellai'r eglwys i ganmol yr Iesu. Dim yn poeni cymaint arni ag iddi fod mor ddistaw am dano, a pheidio canmol mwy arno wrth bobl. Mehefin 18. John Hughes Caerweddus yn dweyd mai gwaith Elizabeth Hughes Merddyn yn cynnal y ddyledswydd deuluaidd pan oedd hi yn gweini yn y Tai isaf, Pentir, a hynny yngwydd 9 neu 10 o ddynion, a fu yn foddion i'w ddwyn ef at grefydd. Mehefin 25. Sylwyd fod yn debyg fod yr Arglwydd Iesu yn sylwi yn y nefoedd ar waith eglwys y Ceunant yn dyfod ynghyd mor gryno i gladdedigaeth Elizabeth Hughes, a'i fod ef yn diolch iddynt am eu caredigrwydd iddo ef ei hun. Bydd yn chwith iawn ar ei hol, canys' Elizabeth a lanwyd o'r Ysbryd Glan.' Awst 6. Henry Williams yn teimlo fod ganddo fwy o afael mewn crefydd wedi bod yn gwrando'r ddiweddar chwaer, Elizabeth Hughes, yn adrodd ei phrofiadau. Tachwedd 19. William Parry Glandwr yn dweyd mai'r hyn a'i cymhellodd ef i ddod i'r seiat oedd sylw y Dr. Owen Thomas am yr hen wraig wrth ben yr ysgol yn gweiddi ar William yn y gwaelod, 'Tyr'd i fyny, William.' Mi feddyliais am geisio dringo i fyny rhag cywilydd i mi.' Sylwadau ar derfyn y flwyddyn. Un chwaer yn bresennol ymhob seiat ond un. Pedwar arddeg heb gael un seiat."

Dyma adroddiad yr ymwelwyr â'r ysgol Sul yn 1885: "Da gennym weled trefn ac effeithiolrwydd yn yr addysg a weinyddir, yn enwedig gyda'r bobl ieuainc. Ymddengys fod yma bob parodrwydd i ymgymeryd â bod yn athrawon, a'r holwyddori yn gyfryw nas gellir beio rhyw lawer arno. Barnwn nad anfuddiol fyddai treulio ychydig amser gyda chaniadaeth, a da fyddai pe gellid dwyn i mewn y graddoliadau safonol. Dywedid wrthym y gallesid