sicrhau mwy o lafur gogyfer ag arholiadau y Cyfarfod Misol, pe cyfyngid testynau y Gymanfa i'r un maes. John Davies, Thomas Jones."
Cryn gynnwrf achoswyd gan y son am adeiladu capel newydd yn 1887. Yr oedd rhan isaf yr ardal yn wrthwynebol i'w leoliad presennol. Dadl y rhan uchaf oedd ei fod yn eiddo rhydd-ddaliadol, yr hyn a sicrhawyd yn 1883 am y swm o £30, a bod gwerth £200 o ddefnyddiau ynddo, a'r ddadl hon a gariodd y dydd. Codwyd capel da, 58 troedfedd wrth 32 troedfedd, gydag ystafell odditano, a thŷ yn y talcen deheuol. Y cytundeb am y gwaith oedd £900. Ymadawodd amryw i Lanrug ar hyn, a chadwyd ysgol Sul yn llofft adeilad perthynol i Mr. John Hughes Tanycoed. Aflonyddai pobl Tanycoed bellach am ysgoldy, a chefnogid hwy gan y Cyfarfod Misol. Ar yr amod fod y rhai aeth i Lanrug yn dychwelyd yn ol, ymgymerwyd âg adeiladu ysgoldy yn Nhanycoed am y swm o £250. Gwnaeth hyn faich yr eglwys yn un llethol. Hydref 16, 1892, y bu farw William Hughes Tanyffordd yn 58 mlwydd oed, wedi gwasanaethu fel blaenor am ddeuddeng mlynedd. Yn nhymor diwygiad 1859 y symbylwyd ef i broffesu crefydd, dan bregeth John Phillips Bangor ar y Ffigysbren Ddiffrwyth yng nghapel Llanrug. Efe oedd trysorydd yr eglwys; yr oedd yn athraw da, ac yn arweinydd cyfarfod gweddi'r bobl ieuainc ar fore Sul. Darllennodd lawer, yn enwedig ar y Beibl. Bu'n ddefnyddiol heb fod yn gyhoeddus iawn. Ymorffwysai ar drefn yr efengyl.
Yn 1895 y gwnawd John G. Davies Tŷ Capel yn flaenor, ac yn 1898, Henry P. Jones Tŷ uchaf, W. W. Jones Tŷ canol a J. T. Jones Hafodlas.
Yn Rhagfyr 1897 fe ffurfiwyd eglwys yn Nhanycoed, pan ymadawodd 30 o aelodau o'r Ceunant, ac y daeth Tanycoed yn daith gyda'r Ceunant. Rhif yr aelodau yn niwedd 1897 ydoedd 135.
Chwefror 25, 1900, bu farw John Lloyd Brynglas, yn 67 mlwydd oed, wedi gwasanaethu'r swydd o flaenor am ugain mlynedd. Lla-