Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Morganwg (Dafydd Morganwg).djvu/11

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RHAGYMADRODD.

HOFFUS DDARLLENYDD,

Dyma HANES MORGANWG wedi ei orphen goreu y gellais. Bu hwn yn destun cystadleuol mewn Eisteddfod Genedlaethol yn 1861, a chefais yr anrhydedd o'm cyfrif yn fuddugol. O'r pryd hwnw hyd 1873, llafuriais gymmaint a ellais i gasglu ychwaneg o'r hanes, gan ei drefnu mor ddeheuig ag oedd modd i mi, cyn ei ddwyn i sylw'r cyhoedd. Teithiais y sir yn fanwl ddwy waith, er mwyn gweled y gwrthddrychau y sonir am danynt genyf, rhag i mi roddi desgrifiad annghywir o honynt. Nid ymgeisiais at iaith flodeuog, farddonol, a chwyddedig, ond cyfleais yr hanes mewn can lleied o le ag oedd ddichonadwy i mi. Ymdrechais pa fodd bynag i wneyd yr hanes mor gywir a gwirioneddol ag oedd yn bossibl i mi, gan ochel y chwedlonol ar un llaw, a'r anffyddol ar y llall. Diamheu fod traddodiadau chwedlonol wedi cael gormod o goel gan ein cenedl, a gormod o'u coledd gan haneswyr Cymreig yn yr oes o'r blaen; a dichon fod rhai haneswyr yn yr oes hon yn tueddu gormod at yr anffyddol, gyda golwg ar hanes ein gwlad. Tueddir rhai i ddiystyru pob Hanes Gymreig, a hyny gyda gwawd; ond rhoddant hyder neillduol ar bob peth a ddywed estroniaid am ein gwlad a'n cenedl, a'r estroniaid hyny feallai heb gael un fantais i wybod dim am danom ond yn unig yr hyn a gasglwyd ganddynt dan ddylanwad rhagfarn, tra yn talu ymweliad damweiniol a'n gwlad am ychydig ddyddiau. Er enghraifft, yn 1868, talodd Golygydd y Good Words ymweliad â Merthyr Tydfil, a bu yno ddau ddiwrnod. Wedi iddo ddychwelyd i'w gartref, ysgrifenodd erthygl faith i'w gyhoeddiad, yn yr hon y traetha yr hyn a welodd yn Merthyr a Dowlais, meddai ef. Ymddangosodd yr erthygl yn rhifyn Ionawr, 1869. Mae mwy na hanner yr ysgrif hono yn anwiredd noeth, yr hyn a brawf nad oedd gan yr estron hwnw yr un amcan mewn golwg wrth ei hysgrifenu ond sarhau y Cymry. Dywed yn mhlith pentwr o anwireddau ereill, fod y merched sydd yn gweithio allan yn Merthyr, yn ysmocio braidd yn ddieithriad, ac er gosod hyn allan yn fwy effeithiol o flaen ei ddarllenwyr, aeth i'r drafferth o gael darlun merch yn ysmocio i addurno ei lyfr ! Cofier mai ymwelydd dau ddiwrnod oedd yr estron hwnw, tra yr wyf finau wedi fy ngeni, fy magu, a byw yn Merthyr dros 30 o flynyddau, a gweled y merched sydd yn gweithio