allan yno braidd bob dydd. Yn awr gofynaf, pa un ai gan yr estron, neu ynte genyf fi y mae'r fantais oreu i wybod y gwir am y lle? Wel, yr wyf fi yn tystio, na welais yr un ferch sydd yn gweithio allan yn ysmocio erioed. Yn awr, meddylier fod yr erthygl a nodwyd yn cael ei darllen yn mhen can mlynedd etto, ac i'r sylw bwn gael ei ddarllen hefyd. Os bydd darllenwyr yr oes hono fel rhai o ddarllenwyr yr oes hon, credant anwiredd yr estron, am ei fod yn wr o Lundain, gan ddiystyru y gwir am ei fod wedi ei ysgrifenu yn Gymraeg.
Haera rhai nad oedd gan y Cymry lenyddiaeth o gwbl hyd yn ddiweddar, ac nad oedd y genedl nemawr gwell na phaganiaid anwaraidd, barbaraidd, ac anwybodus. Etto, nis gallant wadu bodolaeth ein Rheolau Barddoniaeth, y rhai nad oes gan yr un genedl ar wyneb y ddaear ddim yn deilwng i'w cymharu a hwy o ran cywreinrwydd, ac athroniaeth eu cyfansoddiad. Nis gallant wadu bodolaeth ein Cerddoriaeth ychwaith; ac ni raid i'r Alawon Cymreig wrth ganmoliaeth neb. Ni thyfodd y rhai hyn o'r ddaear, ac ni ddisgynasant o'r nef; nid cenedl anwar a allodd eu cynnyrchu ychwaith; ac os na ellir gwadu na gwrthod ein Rheolau Barddoniaeth, a'n Cerddoriaeth, paham y gwadir ac y gwrthodir Hanesiaeth Gymreig? Y cwbl a hawliwn i'n cenedl yw y safle a deilynga yn mhlith cenedloedd ereill, a honwn hefyd, y dylid rhoddi yr ymddiried priodol i Hanesiaeth Gymreig.
Os gwel y darllenydd erthyglau yn y gyfrol hon yn debyg i erthyglau argraffedig yn "CYMRU," dan olygiad y Parch. O. Jones, cofied mai ysgrifenydd y gyfrol hon, ysgrifenodd y rhai hyny hefyd. Yr wyf yn gwneyd y sylw hwn rhag fy ngham-gyhuddo o len-ladrad. Nid wyf yn honi fod y gyfrol hon yn berffaith, ond y mae goreu y gellais i ei gwneyd ; ac felly hyderaf y cydymddygir a mi yn yr hyn sydd ddiffygiol ynddi.
Yn anffodus, y mae un gangen o gledrffordd wedi ei gadael allan o'r map, sef y gangen o Bontypridd i Lantrisant, a drwg genyf hyn. Er hyny, y mae yn fwy cyflawn nag un map o'i faint ag sydd wedi ei gyhoeddi o'r Sir.
Dymunaf ddiolch i'm holl gefnogwyr yn yr anturiaeth hon, yn ddosparthwyr a derbynwyr, ac hyderaf nad yw yn edifar ganddynt hwythau.
Hirwaun, Tach. 1874.DAVID WATKIN JONES