ENW Y SIR.
Enw cyntaf y rhan hono o Ddeheudir Cymru sydd yn cynnwys Morganwg a Mynwy yn bresenol, oedd Essyllwg. Dyna yr enw a roddid i'r parth hwn gan y Cymry pan diriodd y Rhufeiniaid i'r wlad hon gyntaf, dan arweiniad Publius Ostorius Scapula, ac felly y parhaodd yr enw yn amser Julius Frontinus, yr hwn a lwyddodd i orchfygu ein cenedl, gan sefydlu gorsafoedd milwrol mewn gwahanol fanau, a llunio heolydd o'r naill orsaf i'r llall, y rhai a elwid Julia Strata. Wedi i'r Rhufeiniaid sefydlu gorsafoedd yn y rhan hon o'r wlad, darfu i'r Ymherawdwr Severus Ladinio y gair Essyllwg yn Siluria, ac enwodd yr Essyllwyr yn Siluries. Tardda y gair Essyllwg o syllt-syllu, syll fa, neu olygfa; ac wrth gyssylltu yr ol-ddod ug a'r gwreidd-air, cawn mai ystyr yr enw yw, golygfa swynol neu hyfrydol. O'r gair Essyllwg y tarddodd yr enw Gwlad Essyllt a Bro Essyllt.
Dywed Chwedloniaeth mai gwraig ordderch Lloegyr oedd Essyllt, ac iddynt fyw flynyddoedd gyda'u gilydd mewn ogof, lle y ganwyd merch iddynt, yr hon a enwyd yn Hafren; a phan ddaeth Gwendolen, gwraig gyfreithlon Lloegr, o hyd i'w gwr a'i ordderchwraig, gorchymmynodd daflu Essyllt a'i merch i'r afon i'w boddi; ac o hyny allan, galwyd enw yr afon Hafren, a'r wlad ar ei glan yn Wlad Essyllt. Defnyddiodd Milton y chwedl hon yn destyn barddonol.
Enw hynafol arall ar y parth hwn o'n gwlad yw Gwent; ond cynnwysai Gwent y cynoesoedd siroedd presenol Morganwg a Mynwy, yn nghydag Euas, Erging (Archenfield), Sir Henffordd, ac Ystrad Yw, yr hon sydd yn awr yn Sir Frycheiniog. Bernir fod Gwent yn tarddu o'r gair Gwen neu Gwen, ac mai ei ystyr yw teg neu hardd, ac yn agos yn gyfystyr â'r gair Essyllwg; ac y mae prydferthwch y wlad yn teilwng hawlio yr enw.
Mae amrywiol dybiau gwahanol o barth tarddiad ac ystyr yr enw Morganwg. Tardda rhai ef o môr a cant (ymyl), a barnant mai ei ystyr yw gwlad yn ymyl môr. Ereill a'i tarddant o mór a geni, a barnant mai ei ystyr yw gwlad wedi ei geni o'r môr. Yn ol y tybiau hyn, gellid rhoddi yr enw Morganwg i bob parth sydd yn ymyl y môr yn mhob man. Mae yr hen Gofnodion Cymreig, pa fodd bynag, yn symmud pob dyryswch gyda golwg ar hyn, ac yn dynodi tarddiad yr ac enw yn ddigon eglur, fel nad oes achos i neb gamsynied. Wedi ymadawiad y Rhufeiniaid o'r wlad hon, ac adsefydliad man lywodraethau y tywysogion Cymreig, ar farwolaeth y brenin Arthur, yn y flwyddyn 542 B.A., rhoddwyd Cantref Gwent, ac Essyllt, a Gorwennydd, a Rheged i Morgan Mwynfawr, yr hwn a'i galwodd ar ei enw ei hun, Morganwg.
TERFYNAU Y SIR.
Yr oedd terfynau Morganwg yn llawer eangach gynt nag ydynt yn bresenol. Ei therfyn yn y cynoesoedd ar du'r dwyrain oedd afon Gwy (Wye); ar du'r gorllewin, cyrhaeddai hyd afon Llychwr, fel y prawf