yr enw Rheged. Ei therfyn deheuol y pryd hwnw fel yn awr oedd Môr Hafren; a'i therfyn gogleddol gynt oedd mynyddau Brycheiniog. Wedi marwolaeth Morgan Mwynfawr, bu llawer o ymryson ac ymladd rhwng tywysogion Morganwg a thywysogion Dinefwr am y parth sydd rhwng afon Nedd ac afon Llychwr, am fod y naill a'r llall o honynt yn honi hawl i'r lle; a thrwy ymdrechion egniol y cadwodd gwyr Morganwg feddiant o hono, hyd nes penderfynwyd y ddadl yn y ddegfed ganrif trwy gyflafareddiad, fel y cawn sylwi etto.
Wedi y Goresgyniad Normanaidd yn 1090, ymddengys fod gan y Cymry a'r Normaniaid eu terfynau gwahanol i'r Sir. Terfynau'r Sir yn ddwyreiniol a gorllewinol gan y Normaniaid oedd afon Elyrch (Rhymni), a phwll Cynan, neu afonig Crymlun, rhwng afon Nedd ac afon Tawy. Dyna'r terfynau dwyreiniol a gorllewinol a ddynodai Leland yn 1540. Yn Llyfr Syr Edward Stradling, o Gastell St. Donatts hefyd, a ysgrifenwyd yn 1584, dywedir mai terfynau y Sir y pryd hwnw oedd, "O bont afon Rhymni ar y dwyrain, hyd Bwll Cynan yn y gorllewin, 27 milldir; ac o Aberddawen yn y dê, hyd ffiniau Brycheiniog yn y gogledd, 22 o filldiroedd." Yr oedd Cymry Morganwg, pa fodd bynag, yn cyfrif bob amser fod Gwyr, sef rhwng Nedd a Llychwr, a Bro Gwyr, a elwir Gower yn bresenol, yn rhanau o'r Sir hon, er fod y Normaniaid yn ei therfynu yn wahanol.
Terfynau'r Sir yn awr ydynt fel y canlyn:—Terfynir hi ar y dê gan Fôr Hafren (Bristol Channel); ar y gogledd gan Sir Frycheiniog, a rhanau o Sir Gaerfyrddin; ar y dwyrain gan afon Rhymni, yr hon a'i gwahana oddiwrth Sir Fynwy; ac yn orllewinol gan afon Llychwr, yr hon a'i gwahana oddiwrth Sir Gaerfyrddin.
MAINT A PHOBLOGAETH Y SIR.
Mesura Morganwg o afon Rhymni ar y dwyrain, hyd Benrhyn Gwyr, sef Pen-y Pyrod (Worm's Head), yn y gorllewin, 58 milldir; a'i lled mwyaf o Aberddawen yn y dê, hyd y Cae Drain, sef y cwr mwyaf gogleddol o blwyf Merthyr Tydfil, tua 29 milldir; a'i lled lleiaf yn Mro Gwyr tua 4 milldir. Mae yn 125 milldir o amgylchedd, a chynnwysa 547,494 o erwi arwynebol.
Poblogaeth y Sir yn ol Deiliadeb (Census) y Llywodraeth sydd fel y canlyn:
Blynyddau — Poblog
1801. — 70,879
1811. — 85,067
1821. — 102,073
1831. — 126,612
1841. — 177,188
1851. — | 231,849
1861. — 317,752
1871. — 396,010
RHANIADAU Y SIR.
I. RHANIADAU ANIANYDDOL.
Mae rhaniadau naturiol y Sir hon yn cyfateb yn hollol i'r enwau roddwyd iddynt gynt gan y Cymry, yr hyn a brawf fod ein hynafiaid yn ddigon o anianyddwyr i enwi gwahanol ranau y wlad,-ei mynyddau, afonydd, &c., yn unol â theithi y gwrthddrych neu wrthddrychau.