Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Morganwg (Dafydd Morganwg).djvu/28

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr enwau a roddent i brif raniadau naturiol y Sir ydynt, Bro Morganwg, Blaenau Morganwg, Tir Gwyr, a Bro Gwyr; ac y mae'r enwau yn ddarluniad perffaith o'r gwahanol ranau.

BRO MORGANWG.

Bro Morganwg briodol yw y rhan hono o'r Sir sydd yn gorwedd rhwng afon Rhymni ac afon Ogwy, ac o lanau Hafren yn y dê, hyd odreu y gadwyn o fynyddau sydd yn rhedeg o ddwyrain i orllewin, gan ddechreu ar lan afon Rhymni ar gyfer Machen, ac yn rhedeg ar y tu deau i Gaerffili hyd y Castell Coch; ac oddiyno heibio Llantrisant, Mynydd Garth Maelwg, &c. Mae ei hyd o Bont Rhymni (tua dwy filldir i'r dwyrain o Gaerdydd) hyd Benybont-ar-Ogwy, ei therfyn gorllewinol yn 20 milldir, a'i lled o lan môr Hafren ger Llanilltyd Fawr yn y de, hyd Lan Haran yn y gogledd, tua 10 milldir; ac addefir yn gyffredin ei bod yn un o'r llennyrch ffrwythlonaf, prydferthaf, a pharadwysaf yn Nghymru.

O fan hyfryd, ar fin Hafren,—bro fras,
Bro o fri, ail Eden;
Bri a haedda'n Bro addien,—
Hon yw Gardd Morganwg Wen. —D. M.

Mae y rhes fynyddau y cyfeiriwyd atynt yn rhedeg fel mur mawr ar du gogleddol y Fro, gan ei chysgodi rhag anadl oer gwynt y gogledd ; ac yn y mur hwn y mae bylchau neu agoriadau, trwy y rhai y rhed afonydd tryloywon i ddyfrhau tiroedd breision y gwastadedd islaw. Rhwng afon Rhymni ac afon Taf, y saif Mynydd Cefn On, fel ag i ffurfio rhan o'r mur, a Chraig Ruperra, Craig Siencyn, Craig Llanisan, Craig y Ddraenen, a Chraig y Wenallt, fel cynnifer o feini mawrion yn ffurfio y rhan yma o'r mur.

Rhwng afonydd Taf ac Elai, saif Mynydd y Garth, gyda Chraig Gwilym, Craig Coed y Creigiau, a Chraig Llantrisant, y rhai sydd yn ffurfio rhan arall o'r mur cysgodol hwn. Rhwng afon Elai a'r Ewynwy (Ewenni) drachefn, y saif Mynydd Garth Maelwg a Mynydd Macres; a rhwng Ewynwy a'r Eogwy (Ogwy), saif Mynydd y Gaer a Chefn Hirgoed.

Mae'r heirdd fynyddau hyn yn uthr a barnog—
Dadblygiad ynt o'r gorwych a'r mawreddog;
Ac ar bob un o'u bannau dyrchafedig.
Mae enw y Gwneuthurydd yn gerfiedig.
Ha! nid trwy ddamwain ddall y rhoed mynyddau
Y gymmydogaeth hon yn eu morteisiau,
Ond gwelir mawr ddoethineb y Gosodwr
Yn hynod eglur ar bob un o'r pentwr:
Doethineb llai nâ'r Dwyfol nis gallasai
Bennodi'r lleoedd i roi lawr eu seiliau;
Ac eglur yw mai'r amcan mawr mewn golwg
Oedd codi Mur Gogleddol Bro Morganwg!
Mur ydyw hwn a godwyd â mynyddau,
Yn amddiffynfa Hyfryd Fro y ffrwythau ;