Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Morganwg (Dafydd Morganwg).djvu/32

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mae amryw o'n hawduron diweddar yn tueddu i wneyd cam â'r Brutiau Cymreig, o ddiffyg sylwi ar y gwahaniaeth a nodir yno rhwng Gwyr a Bro Gwyr; ac ymddengys nad oedd yr enwog Iolo Morganwg yn ystyried hyn pan y dywedai mai nid yn Ngwyr y mae Llan Giwe, &c.

Rhed afon Tawy trwy dir Gwyr, gan ei wahanu yn ddwy ran, sef dwyreiniol a gorllewinol.

BRO GWYR.

Bro Gwyr, neu Browyr, a elwir Gower yn bresenol, yw y parth hwnw sydd yn gorwedd rhwng afon Burry a Morgilfach Abertawy, ac yn ffurfio math o orynys dros 50 milldir o amgylchedd, sef o Abertawy gyda'r traeth i'r Mumbles, oddiyno heibio Caswell Bay, Oxwich Bay, Port Eynion Bay, &c., hyd at Bentir Gwyr (Worm's Head); yna heibio Rossilly Bay hyd at Llanmadog; ac oddiyno gyda'r traeth gogleddol hyd Gastell Llwchwr. Mae Browyr i raddau helaeth yn amddifad o brif-ffyrdd a chledrffyrdd; ac nid oes ond un gwaith o bwys neillduol yn y lle, sef Penclawdd. Er hyny, y mae'r Fro Wyrog hon yn meddu digonedd o wrthddrychau amrywiol, a digon o swynion i'r ymwelydd, fel ag i'w dalu yn dda am ei drafferth o'i theithio. Mae golygfeydd glanau y mor-yn neillduol y cilfachau creigiog-yn ofnadwy o wyllt yn y parth hwn o'r Sir; ac yn y creigiau hyny, y mae ogofeydd o hynodrwydd neillduol, hanes y rhai, gyda desgrifiad o honynt, a welir dan y penawd "Hynodion Morganwg."

Mae yma luaws o adfeilion hen Gestyll Normanaidd hefyd o ddyddordeb mawr i'r hynafiaethydd. Y gwir yw, mae amrywiaeth gwrthddrychau hynod, yn naturiol a chelfyddydol, dull ac arferion y trigolion, &c., yn hawlio i Fro Gwyr yr enw o "Amgueddfa Hynodion Naturiol ac olion Hynafiaethol."

AFONYDD MORGANWG.

That RHYMNEY when she saw these gallant nymphs of Gwent,
On this appointed match were all so hotly bent,
Where she of ancient had parted as a mound
The Monmouthian fields and Glamorgan ground,
Intreats the TAFF along, as gray as any glass,
With whom clear Cynon comes, a lusty Cambrian lass;
Then ELY, and EWENNY, with her hold her way,
And OGMORE, that would yet be there as soon as they,
By AVAN called in; when nimbler NEATH аnon
(To all the neighbouring nymphs for her rare beauties known;
Besides her double head, to help her stream that hath
Her handmaids Mellte sweet, clear Hepste, and Tregath),
From Brecknock forth did break; then Dulas, and Cledaugh,
By Morgany do drive her through her watery sough;
With TAWY taking part t' assist the Cambrian power,
Then LHU, and LOGOR, given to strengthen them by Gower."

DRAYTON.

Dyna ddesgrifiad y bardd Seisnig o Afonydd Morganwg, gan ddechreu ar y tu dwyreiniol; ac felly y gwnaf finau. Gan fod Blaenau Morganwg yn gyfansoddedig o fynyddau a chymoedd, mae yn naturiol fod