yma lawer o nentydd ac afonydd o wahanol faintioli; ond byddai manylu ar bob un o honynt yn chwyddo gormod ar y llyfr; o ganlyniad, ni wneir ond sylwi ar y prif rai, gydag enwi y lleill fel cangenau perthynol iddynt.
I. AFON ELYRCH (Swan's River) NEU Y RHYMNI.—Tardd hon yn sir Frycheiniog, tua thair milldir i'r gogledd o Bont Rhymni (Pont Llechryd), a thua 5 milldir i'r gogledd o Waith Haiarn Rhymni, mewn ardal a elwir Blaen Rhymni, yn agos i'r Pyllau Duon. Yn ngwely yr afon, ychydig i'r dé o'i tharddle, y mae'r man hynod hwnw a elwir Rhyd y Milwyr, lle y mae lluaws o fan dyllau yn y graig yn debyg i olion traed defaid, gwartheg, mulod, ceffylau, &c. Mae llawer o wahanol farnau am yr olion hyn, a llawer o ddadleu yn eu cylch. Barn rhai yw, mai olion traed ydynt, a wnaed pan oedd y lle yn llaith, a'i fod wedi ffurfio yn graig ar ol hyny; tra ereill a farnant mai yr afon sydd wedi treulio y graig i'w ffurf bresenol. Ofer fyddai ceisio penderfynu'r pwnc, ac felly gadawaf ef yn agored, gyda dweyd nad oes un rhan o bedair o'r olion yn weledig yn awr ag oedd 30 mlynedd yn ol, gan fod gwely yr afon yn llawer culach yn awr na'r pryd hwnw, a brwyn yn tyfu dros y rhan fwyaf o'r olion, yr hyn a brawf fod yma weithiad daiaregol cryf yn myned yn mlaen yn bresenol. Tua milldir islaw Rhyd y Milwyr, troir llawer o ddwfr yr afon o'i wely naturiol i ffosydd a wnaed bob ochr iddi, i gario y dwfr i gronfeydd mawrion at wasanaeth Gweithfeydd Rhymni ac i ddisychedu y trigolion. Mac man yn ngwely yr afon, tua chwarter milldir islaw Inn Rhymni, lle y gall dyn osod un droed yn sir Frycheiniog, y llall yn Morganwg, a'i law yn Mynwy. Rhed Nant Melin i'r Rhymni yn y fan hon o'r tu dwyrain, a ffurfia'r ffin rhwng Brycheiniog a Mynwy. O'r nant hon i'r mor, y mae afon Rhymni yn ffin rhwng Morganwg a Mynwy. Y prif nentydd a ymarllwysant iddi o ochr Morganwg ydynt y rhai canlynol:-1. Bargoed Fach, sef Bargoed Rhymni. Tardd hon ger y Fochriw, yn mhlwyf Gelligaer; ac ar ol rhedeg amryw filldiroedd trwy gwm cul a dwfn, abera yn y Rhymni mewn lle a elwir Pont Aberbargoed. 2. Nant Pengam, yr hon a dardd yn yr un plwyf, ac a abera ger Pont Aberpengam. 3. Nant y Cylla, yr hon a dardd yn Fforest Gwladus, yn yr un plwyf a'r ddwy flaenorol, ac abera yn y Rhymni ger Ystrad Mynach. 4. Y Tridwr a dardd mewn tair ffynnonell yn mhlwyf Eglwys Elian, y rhai a unant a'u gilydd yn Abertridwr; ac ar ol rhedeg heibio Hendredeny, Gweneu'r Glyn, a Virginia House, abera y nant yn y Rhymni ger Ty Bedwas. 5. Nant y Gledyr. Tardd hon hefyd yn mhlwyf Eglwys Elian; ac ar ol rhedeg rhai milldiroedd, pasia Gastell a thref Caerffili, ac yna fel ei chwiorydd, cyll ei henw yn y Rhymni. 6. Nant Dulas, yr hon sy'n dyfrhau rhanau o blwyfi Llysfaen a Llanedeyrn. 7. Nant y Dderwen Deg, yr hon sydd afonig fechan, ac amryw fán nentydd yn rhedeg iddi, megys Nant y Wedal, y Nant Fawr, &c., y rhai ar ol uno â'u gilydd, a redant i'r de heibio Roath, gan ymarllwys i'r Rhymni yn agos i'r fan yr abera hithau yn Hafren. Rhed afon Rhymni o'r gogledd i'r dé nes dyfod o fewn ychydig i Gaerffili, ac yna rhydd dro tua'r dwyrain am rai milldiroedd,