Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Morganwg (Dafydd Morganwg).djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a thry yn ol i'r dê-orllewin cyn ymarllwys i Hafren tua dwy filldir i'r dwyrain o Gaerdydd.

II. AFON TAF.—Hon yw'r gadwyn ddyfrol sydd yn uno Merthyr Tydfil a Chaerdydd â'u gilydd. Tardd mewn dwy ffynnonell yn Mrycheiniog, ffrydiau y rhai cyn eu huniad â'u gilydd, a elwir y Taf Fechan a'r Taf Fawr. Tardd y Taf Fechan ger Bwlch y Fan. Yn 1858, gwnaed Dwfr Gronfa (Reservoir) eang ychydig islaw ei tharddle, mewn man a elwir Dol-y-gaer, trwy adeiladu mur cryf yn groes i'r cwm. Dyben y gronfa fawreddog hon yw diwallu Haiarnfaoedd Merthyr à dwfr yn nhymhor sych yr haf, gan fod Bwrdd Iechyd y dref yn defnyddio llawer o ddyfroedd y ffynnonellau sy'n ffurfio yr afon at ddiwallu trigolion y dref â dwfr iachus. Mae llawer yn credu fod y dref yn cael ei diwallu o'r Gronfa Fawr, ond y mae hyny yn hollol gamsyniol. Cludir y dyfroedd i'r dref o'r tarddleoedd mewn pibellau haiarn am tua 7 milldir o ffordd; a chyn cyrhaedd y dref, purir ef yn y Burfa.

A Merthyr Tydfil ymwrthyd,—bellach,
A rhyw byllau bawlyd;
Y Ddwfr-Weithfa dda a ddyd
I'w phobloedd ddyfroedd hyfryd.—D. M.

Yn misoedd yr haf, ymdyra lluaws o drigolion Merthyr a Dowlais i ymbleseru ar y Ddwfr Gronfa mewn badau, y rhai a gedwir yno i'r dyben hwnw. Rhed yr afon oddiwrth y Gronfa am ychydig ar balmant o'r hen Dywodfaen Coch, ac yna dros wely o Galch-graig Fynyddig; pasia Bont-y-Sticyll, Eglwys y Faenor, a Chastell Morlais yn lled ddiseremoni, gan lithro dan bont fwäog Cledrffordd Merthyr ac Aberhonddu a'r Bont Sarn, y rhai ydynt bynt newyddion. Mae hen Bont Sarn, yr hon oedd o goed, wedi rhoi ffordd i bont geryg ardderchog. Ger y bont hon mae'r afon yn gul iawn, ac wedi cafnu ei gwely mor ddwfn yn y graig galch, fel y mae yn ddigon i ddychrynu calon cawr i edrych arni dros y bont, i lawr yn yr agen ddofn, dywell, a'i chlywed yn ymlithro rhwng y clogwyni; ac yna yn ddisymwth yn rhoddi naid ar ei phen dros graig serth i'r Pwll Glas, yr hwn sydd 21 troedfedd o ddyfnder. Ar ol ymddadebru ychydig ar ol y cwymp, hi rêd ar du gogleddol Parc Gyfarthfa, gan yfed Nant Glais ar y ffordd, a chyferfydd a'i chwaer-y Taf Fawr, ger Gwaith Haiarn Gyfarthfa. Ca y Taf Fawr ei bodolaeth mewn mawndir mynyddig ger Tafarn y Mynydd (Brycheiniog), a rhed yn siongc a bywiog heibio Cryw, Capel Nant Ddu, y Darren Fawr, a Chladdfa eang Merthyr, a elwir Claddfa'r Cefn ; ac ychydig yn is, ger hen Bont y Capel, derbynia y Ffrwd i'w mynwes o'r tu gorllewinol. Mae Cwm Ffrwd yn ddwfn, cul, coediog, a chreigiog iawn, a'r olwg arno mor wyllt a rhamantus ag unrhyw fan yn y Sir. Mae ochrau'r cwm mor serth, a'r graig dros yr hon y disgyna'r Ffrwd mor syth, fel nas gellir myned allan o'r cwm ond trwy yr un ffordd ag yr eir iddo ger Pont y Capel.

Du, uthr lwngc, dyeithrawl ŵg!--ac am ffroen
Cwm Ffrwd mae hyll gilwg;
Hir geulan arw ei golwg,
Noeth, hagr drem,-nyth y Gwr Drwg.
—Abram Fardd.