Tudalen:Hanes Mynachdai.pdf/11

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Hanes Mynachdai Gogledd Cymru hyd eu diddymiad

PENNOD I

MYNACHAETH

UN o'r llinellau amlycaf yn hanes yr Eglwys Geltaidd ydyw Mynachaeth; astudier ei henes yng Nghymru, yn yr Iwerddon, yn Scotland, neu ar y Cyfandir, a cheir fod hon yn elfen gyffredin. Ymgyfyd y cwestiwn—O ba le, a pha adeg, y daeth Mynachaeth gyntaf i Brydain? O berthynas i'r lle y daeth ohono ceir dau olygiad yr Aipht a Deheudir Ffrainc. Nid llawer o wahaniaeth sydd rhwng y ddau olygiad; gellir edrych ar fynachaeth yr Aifft yn dod i Brydain drwy fynachaeth Deheudir Ffrainc, a ffurfiwyd ar gynllun un yr Aifft. Yr oedd John Cassian y gwr sefydlodd Fynachaeth yn Neheudir Ffrainc, wedi treulio llawer o amser yn yr Aifft ac wedi ei swyno yn fawr gan gyfundrefn y wlad i ddatblygu y bywyd crefyddol, fel y dengys ei weithiau—De Institutis Canobiorum a'r Consolationes Patrum. Planhigyn o'r Aifft oedd yr un blanwyd gan John Cassian ym Massilia, a phlanhigyn cyffelyb o'r un lle oedd yr un roddwyd i lawr gen Honoratus yntau yn Lerins. Deuwn i'r casgliad ddarfod i fynachaeth ddod i Brydain o Ddeheudir Ffrainc Massilia a Lerins, ac i'r lleoedd hyn dderbyn eu cynllun a'u hysbrydiaeth o'r Aifft. Ceir ffurf wahanol ar Fynachaeth yng Ngogledd Ffrainc—ffurf a delw Martin o Tours arni—ond yn hyn dilynodd Prydain John Cassian yn hytrach na Martin o Tours. Pa bryd y daeth Mynachaeth i Brydain? Ni cheir unrhyw dystiolaeth ei bod yma cyn dechreu y bumed ganrif. a theg ydyw casglu ei bod wedi ei sefydlu cyn ymweliad Germanus â'r wlad hon yn y flwyddyn 429, a'i ail ymweliad yn y flwyddyn 447; pe na buasai Mynachaeth wedi ei sefydlu anodd ydyw credu y buasai ef yn gadael hyn yn ddisylw, ac y buasai y gwr ysgrifennodd hanes bywyd Germanus yn peidio cofnodi pwysiced ffaith. Dywedir i Ffaustus ddod o Brydain i Fynachdy Lerins cyn i Honoratus adael y lle yn 426; yr oedd Ffaustus y pryd hyn o un ar bymtheg i ddeunaw oed yn ol tystiolaeth Engelbrecht.[1] Awgrymir dau beth gan hyn: fod Mynachaeth wedi rhoddi ei throed i lawr ym Mhrydain cyn 426, ac fod cydymdeimlad rhwng Mynachaeth Prydain a'r ffurf a

geid ar Fynachaeth yn Neheudir Ffrainc. Disgrifir Riocatus fel

  1. Engelbrecht's Fausti Opera, Prolegomena, iv—xi.