Tudalen:Hanes Mynachdai.pdf/12

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

un o'r un wlad a Ffaustus, ac fel esgob a mynach; daeth yntau o Brydain i Ddeheudir Ffrainc oddeutu'r flwyddyn 450.[1] Yng ngoleuni y ffeithiau hyn, gellir edrych ar y deugain mlynedd cyntaf o'r bumed ganrif fel y blynyddoedd y sefydlwyd Mynachaeth ym Mhrydain.

Wrth ddatblygu yn raddol cymerodd Mynachaeth wahanol ffurfiau; ar y cyntaf ymddengys mai'r syniad llywodraethol oedd bywyd o neillduedd; ymffurfio yn gyfundeb er mwyn ymarfer y dyledswyddau o hunanymwadu, myfyrio, gweddio; yr oedd pob peth ganddynt yn gyffredin, a phawb yn rhwym i roddi ufudddod i'r gwr osodwyd yn ben arnynt yr abad. Yr oedd yr holl drefniadau wedi eu ffurfio fel ag i fod yn gwrs o ddisgyblaeth er dadblygu y bywyd crefyddol o fewn y mynachdy ei hunan.

Yn ddiweddarach cymerodd Mynachaeth olwg uwch ar ei chenhadaeth; tywynnodd y gwirionedd ar ei meddwl mai'r ffordd fwyaf effeithiol i wella ei hunan oedd drwy ymdrech i wella eraill. O gredu hyn, daeth y mynachdy yn ysgol. Cymerodd Illtud y blaen gyda hyn yng Nghymru. Sieryd Gildas yn uchel am Illtud yn y cymeriad hwn, disgrifir ef ganddo fel "dysgawdwr gwych braidd yr oll o Brydain"[2]; yn y mynachdai dysgid yr ieuanc a'r rhai mewn oed mewn crefydd a materion cyffredin. Cyfeiria Alcuin at Gildas fel y mwyaf athrylithgar o ysgol Illtud Sant." Deuai nifer fawr i'r ysgolion hyn yn ol tystiolaeth Llyfr Llandaf,[3] yr oedd gan Ddyfrig ddwy fil o dan ei ofal yn Henllan—ar—Wy; yr oedd dwy fil a chant yn derbyn eu haddysg un adeg ym Mangor Is Coed; a dwy fil a phedwar cant yn Llanilltud Fawr; gwneid gwaith cyffelyb yn Nhy Gwyn Mynyw, ac ym Mangor Deiniol. Yn y trydydd cyfnod yn hanes Mynachaeth, gwelir tuedd i fyned yn ol at y bywyd nodweddai y gyfundrefn ar y cychwyn; yn y cyfnod cyntaf ceid cyfundeb o bobl yn ceisio neillduedd oddiwrth y byd oddiallan, yn y trydydd cyfnod ceir yr un peth gan bersonau neillduol—yr unig yn chwilio am neilltuedd er cael mantais i fyw y bywyd uwch. Dyma gyfnod yr ancr a'r meudwy—cymerai i mewn gyfnod maith; ond gellir dweyd iddo ddechreu yn ystod yr hanner olaf o'r chweched ganrif. Achosai y mudiad hwn bryder i garedigion Mynachaeth; anfonodd Columbanus at y Pab Gregori Fawr i gael ei farn ef ar hyn, ac ysgrifennodd Finian at Gildas er cael ei gyngor gyda golwg arno. Ai y myneich yn y cyfnod hwn i leoedd anghyfanedd i breswylio, ond nid y rhai a wnaent hyn oedd y dosbarth pwysicaf o'r meudwyaid, ond y rhai wnaent iddynt gell o fewn y tir berthynai i dylwyth y Sant.[4] Dywedir na chafwyd prawf o fodolaeth yr un o'r celloedd hyn yng Nghymru,[5] ond gall hynny fod o ddiffyg chwilio yn briodol am danynt.[6] Perthyn pwysigrwydd neilltuol i'r

  1. Apollinaris Sidonius, Mon. Ger. Hist., viii. 157.
  2. Gildas, De Excidio Brit. cc 33—36.
  3. Liber Landavensis, td. 324.
  4. The real anchorite was the one who did not leave the territory of the tribe of the Saint, but built himself a cell or enclosure on it, in which he dwelt, and out of which he rarely came." The Celtic Church of Wales, p. 180: J. W. Willis Bund.
  5. Sonir am "guddygl meudwy "yn y Mabinogion. Mab. Red Book of Hergest, vol. i. p. 211.
  6. The Celtic Church of Wales, p. 169: J. W. Willis Bund.