Tudalen:Hanes Mynachdai.pdf/13

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mudiad hwn, am y cydnabyddid ynddo yr egwyddor y gellir rhannu esgobaeth a'i gwneud yn nifer o henaduriaethau. Y cyfnod hwn, o bosibl, ddyry gyfrif am y Llanau a'r Cilau geir fynyched ynglŷn âg enwau lleoedd yng Nghymru.

Y pedwerydd cyfnod yn hanes Mynachaeth ydyw yr un y gwelir y myneich yn troi yn genhadon ynddo. Gwelwyd gogwydd yn y cyfeiriad hwn yn gynnar yn hanes Mynachaeth, cymerodd afael yng Ngholumbanus a Samson, a pherffeithiwyd y syniad yn hanes y Brodyr Cardod. Dengys Samson wrth ysgrifennu at ei ewythr eanged oedd ei syniad am fywyd mynach—bywyd ydyw iddo ef o dreulio ac ymdreulio er mwyn eraill,—bywyd o grwydro o le i le gan bregethu i'r bobl yn yr iaith a ddeallant, gan sefydlu mynachdai, gan iachau y rhai cleifion, a chan wrando yn amyneddgar ar yr achosion ddygir ger ei fron, a chan eu hateb yn addfwyn a boneddigaidd.[1] Ceir yr un nodyn yn ysgrifeniadau Gildas—galwad i fywyd o weithgarwch, galwad i ymdreulio er lles eraill; yr hen syniad am fywyd mynach oedd un yn gwneud ei oreu i gadw ei enaid ei hun; syniad diweddarach ydyw un yn ymroi i fod yn foddion i achub eneidiau eraill.

Perthynai i Fynachaeth yr Eglwysi Celtaidd ffurfiau a'u gwahaniaethai oddiwrth Fynachaeth Eglwys Rhufain; nid ar yr un llinellau yr ymddatblygent; y cwrs ddilynid gan Eglwys Rhufain oedd hwn cyfnod y meudwy i ddechreu, cyfnod yr ysgol yn ol hynny, ac yn ddiweddaf cyfundeb o bobl dan reolaeth yr abad; ond dechreuai yr Eglwysi Celtaidd lle y diweddai Eglwys Rhufain: cychwynent hwy drwy ymffurfio yn gyfundeb, wneid i fyny o feibion a merched, er amddiffyn eu gilydd ac er cyffroi y naill y llall i'r hyn oedd dda, yna daeth cyfnod yr ysgol, ac yn ddiweddaf y cyfnod pan droai y myneich yn genhadon, yr oedd i Fynachaeth yr Eglwysi Celtaidd ddigon o nodweddion gwahaniaethol i gyfiawnhau'r casgliad mai nid ffurf mohoni ar gyfundrefn Benedict, ond cynnyrch y tir—y meddwl Celtaidd yn penderfynu ar ffurf i grofydd ddatblygu ynddi yn unol â'i anianawd ef. Ni phorthynai i Fynachaeth Geltaidd unrhyw "reol buchedd " fel yr un y cysylltir enw Benedict â hi; gwir y ceir "rheol Columba," ond math o ddatganiad oedd hon o'r hyn oedd ddymunol a da, yn hytrach na rheol fanwl ag yr oedd yn rhaid cadw ati. Dylid, fodd bynnag, wneud eithriad o'r myneich Celtaidd ar y Cyfandir—ymrwyment hwy i gadw "rheol Columba." Drachefn, ni phroffesai myneich yr Eglwysi Celtaidd fod arnynt unrhyw rwymedigaeth i ymgadw rhag priodi llinell oedd mor nodweddiadol o Fynachaeth Eglwys Rhufain. Yr oedd y gwahaniaeth mwyaf rhwng safle a gallu yr esgob yn y ddwy gyfundrefn; ceir ychwaneg ar hyn ymhellach ymlaen.[2] Ceir prawf pellach mai dau dyfiad gwahanol oedd Mynachaeth Rhufain a Mynachaeth yr Eglwysi Celtaidd o edrych ar eu trefniadau eglwysig yn ol cyfundrefn Rhufain rhennid y wlad yn wahanol blwyfi, a gosodid eglwys ymhob plwyf, ac edrychid ar yr holl drigolion o fewn y cylch fel yn perthyn iddi; y plwyf oedd yr unit

  1. Vita Sams., p. 121.
  2. Pennod II