Tudalen:Hanes Mynachdai.pdf/14

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y pwynt cychwyn; ond edrychai yr Eglwys Geltaidd ar yr holl wlad fel perchenogaeth y gwahanol dylwythau, a rhennid y tylwythau hyn yn ddau ddosbarth—tylwyth y tir a thylwyth y Sant. Pan roddid darn o dir i dylwyth neilltuol, byddai tylwyth y Sant yn gosod i fyny eglwys ar unwaith er darparu ar gyfer anghenion ysbrydol y tylwyth, a hynny nid am eu bod yn byw o fewn rhyw gylch neilltuol ond am y perthynent i'r tylwyth, a chanddynt hawl i'w holl freintiau. Ymdrechodd yr Eglwys Geltaidd yng Nghymru yn hir ac yn ddewr am ei hawl i fyw ei bywyd ei hunan ac i gadw ei phriod nodweddion, yn hytrach nag ymgolli ym mywyd unrhyw eglwys arall, gwrthododd ymostwng i'r mynach Awstin ac i gael ei rheoli gan Rufain. Yr oedd y blynyddoedd o 602 hyd 1100 yn dymor o ymrafael rhwng yr Eglwys Geltaidd ac Eglwys Rhufain; ni chydnabyddai y flaenaf awdurdod y Pab, ac ni fynnai edrych arni ei hunan fel rhan o'r Eglwys lywodraethid ganddo. Gwnai cynrychiolwyr Eglwys Rhufain bob peth o fewn eu gallu yn y cyfnod hwn i wanhau yr eglwys yng Nghymru. Datganodd Theodore o Tarsus, archesgob Caergaint, nad oedd rym yn urddau yr Eglwysi Celtaidd, ac ne pherthynai i'w hesgobion y galluoedd berthynai yn naturiol i'r swydd hon, am nad oeddynt wedi eu cysegru yn briodol; a llwyddodd i berswadio Chad, un o'r esgobion Cymreig, i gymeryd ei ail—gysegru yr adeg y dyrchafwyd ef i fod yn Esgob Lichfield; bu hyn yn ddyrnod dost i achos yr Eglwys Geltaidd yng Nghymru; syniad yr Eglwys hon am Sant y pryd hyn oedd un a chanddo allu i gyflawni gwyrthiau—gweithredoedd goruwchnaturiol, a hynny ar gyfrif rhyw alluoedd berthynai i'w swydd gysegredig; gollyngodd Chad ei afael o hyn oll wrth gymeryd ei ail—gysegru yn Esgob Lichfield. Bu dyfodiad y Normaniaid i'r wlad hon yn foddion i gryfhau Eglwys Rhufain ac i wanhau yr Eglwys Geltaidd yng Nghymru. Haerai William y Gorchfygwr i'r Cymry ymostwng iddo yr adeg yr aeth i Dyddewi yn 1079, iddynt ddatgan eu parodrwydd i dalu gwarogaeth iddo, ac i'w gydnabod ef fel eu harglwydd; a daliai fod hyn yn rhoddi hawl iddo ymyryd â'u materion eglwysig, ac ni fu yn fyr o wneud hyn. Daeth y Normaniaid a'u sefydliadau crefyddol gyda hwy,—crefydd Rhufain oedd eu crefydd hwy,— gwnaent eu goreu i hyrwyddo Eglwys Rhufein. Gosodwyd i fyny nifer o sefydliadau Benedict ar ororau Cymru i gychwyn, ac yn ddiweddarach aethant i Ddeheudir Cymru. Lle bynnag y ceid castell Normanaidd ceid crefydd-dy dan ei gysgod; dywedid mai tri anhebgor sefydliad Normanaidd oedd castell, mynachdy, ac eglwys.[1] Rhoddwyd dyrnod drom arall i'r Eglwys Geltaidd yng Nghymru pen y llwyddodd Eglwys Rhufain i sicrhau iddi ei hunan yr hawl i apwyntio esgobion i esgobaethau Cymreig. Drwy orthrwm hyd yma y llesteiriwyd dylanwad yr Eglwys Geltaidd yng Nghymru, ond yn y ddeuddegfed ganrif daeth y Cisterciaid i'r wlad hon, a gwnaethant fwy na neb i gryfhau Eglwys Rhufain yng Nghymru; buont hwy yn foddion i ennill y Cymry i fabwysiadu crefydd Rhufain ac i ddod yn aelodau o'i heglwys. Ar eu dyfod i'r

wlad hon, gosodasant eu hunain yn ochr y Cymry yn eu gwrth-

  1. The Celtic Church of Wales, p. 477: J. W. Willis Bund.