Tudalen:Hanes Mynachdai.pdf/15

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wynebiad i'r Saeson, cydymdeimlent â dyheadau y Cymry yn eu hymdrech am anibyniaeth eu gwlad; ond darbwyllasant arweinwyr Cymru y byddai i'r Cymry aros yn genedl er colli ohonynt eu heglwys. Fe lygrwyd y Cymry drwy weniaith y Cisterciaid i roddi eu heglwys i fyny ac i fwrw eu coelbren yn Eglwys Rhufain— Eglwys ag y bu ei dylanwad yn oruchaf yng Nghymru o'r drydedd ganrif ar ddeg hyd yr unfed ganrif ar bymtheg.

Mewn pennod arweiniol ar Fynachaeth, angenrhaid yw cyfeirio at yr Urddau Mynachaidd. Yn y ddegfed ganrif, ymddanghosodd Urdd Clugny, a buont yn foddion i ddwyn bywyd newydd i Eglwys Rhufain yr Eglwys y gellir ei hystyried y pryd hyn fel Eglwys Gorllewin Ewrob. Yr adeg y cododd yr urdd hon yr oedd yr Eglwys wedi dirywio yn fawr, a theimlai llawer awydd am weled ei diwygio. Teimlid fod yn rhaid puro y ffynonellau—y mynachdai, ac nid gwaith hawdd oedd hyn. Yn ol Cyfundrefn Benedict, yr oedd pob mynachdy yn anibynol a hunan-lywodraethol, ac oherwydd hyn anodd oedd dyfeisio cynllun i fynd at yr oll a'u gwellhau. Yr anhawster yna roddodd fod i Urdd Clugny; yr oedd Abad Clugny i'w ystyried yn ben pob mynachdy perthynol i'r urdd yn Ewrob, prioriaid o dano ef lywodraethent y mynachdai, talent swm o arian yn flynyddol i'r prif abad ac i ddibenion cyffredin yr urdd. Yr oedd Abad Clugny yn fath o bab Mynachaeth. Bu dylanwad yr urdd yn fawr ac yn dda. Cadw yr eglwys yn ddifrycheulyd oddiwrth y byd oedd yr hyn yr amcanent ato; ac er sicrhau hyn, credent y dylai yr Eglwys fod yn anibynol ar y Wladwriaeth, ac y dylai orfodi ei hoffeiriaid i ymgadw rhag priodi.[1] Mewn amser, aeth yr urdd yn fydol, a chollodd ei dylanwad, a chodwyd urdd arall Urdd y Cisterciaid—i barhau y gwaith ddechreuwyd ganddi. Cafodd hon ei bôd oddeutu dechreu y ddeuddegfed ganrif; cychwynwyd hi yn Citeaux rhwng Dijon a Châlons. Ymsefydlai y Cisterciaid mewn lleoedd unig, anghysbell. Gwahaniaethai yr urdd o ran cyfansoddiad oddiwrth Urdd Clugny; yr oedd pob mynachdy Cisterciaidd yn anibynol a hunan—lywodraethol; ond yr oedd yr abadau yn rhwym i ddod ynghyd ar adegau neilltuol i fath o gymanfa gyffredinol,—a'r cymanfaoedd hyn oedd cyrff llywodraethol yr urdd. Hyd yn hyn, nodweddid yr urddau mynachaidd gan ymdrech i ymneilltuo o'r byd er dianc rhag y trachwant sydd ynddo. Yn y ddeuddegfed ganrif, tywynnodd ar feddwl yr Eglwys fod uwch math ar rinwedd na dianc o'r byd, sef "byw yn y byd ac eto heb fod o'r byd." Bu i Ryfeloedd y Groes ran neilltuol er dwyn y gwirionedd hwn adref. "God found out the Crusades as a way to reconcile religion and the world." Danghoswyd yn glir yr un egwyddor ym mywyd y Canoniaid Rheolaidd, neu Ganoniaid Awstin —dynion gyfunent yn eu bywyd fywyd y mynach a bywyd yr offeiriad plwyf. Gwelwyd y duedd hon ar ei pherffeithiaf ym mywyd y Brodyr Cardod. Bu eu dylanwad yn fawr. Gwnaethant fwy, o bosibl, na neb arall yn y drydedd ganrif ar ddeg, er cadw crefydd yn fyw ac yn bur; ond nid dyna'r oll wnaethant. Yn wleidyddol, buont yn wyr canol—yn offerynau i ddwyn hen ysbryd y bendefig-