Tudalen:Hanes Mynachdai.pdf/16

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

aeth i ddygymnod â'r ysbryd newydd ddechreuai ymddangos ymysg gwerin gwahanol genhedloedd. A yr Esgob Creighton cyn belled a dweyd mai syniadau yr Urddau Cardod roddodd fôd i ryfel y Barwniaid yn Lloegr.[1] Gwneid y Brodyr Cardod i fyny o bedwar dosbarth, y Dominiciaid neu y Brodyr Duon, ymsefydlasant hwy yng Nghymru ym Mangor, Rhuddlan, Aberhonddu, Hwlffordd, a Chaerdydd; y Francisciaid neu y Brodyr Llwydion yng Nghaerdydd, Caerfyrddin, a Llanfaes; y Carmeliaid, neu y Brodyr Gwynion yn Ninbych; Brodyr Awstin yng Nghasnewydd, Sir Fynwy. Y ddau ddosbarth pwysicaf a lliosocaf oedd y Francisciaid a'r Dominiciaid; apeliai y rhai blaenaf at y lliaws drwy gyfrwng pregethu. Disgrifir Francis, sylfaenydd yr urdd, fel John Wesley y drydedd ganrif ar ddeg.[2] Yr oedd cenadwri y Dominiciaid yn fwyaf neilltuol at y dysgedig. Dywedir mai John Wesley a'r Esgob Butler fu yn brif foddion i ddwyn bywyd newydd i Loegr yn y ddeunawfed ganrif; apeliai y naill at y dosbarth cyffredin, tra yr apeliai y llall at y dosbarth meddylgar, dysgedig. Gwnaed gwaith cyffelyb yn y drydedd ganrif ar ddeg gan Francis a Dominic. Ychydig fu nifer a dylanwad y Carthusiaid ym Mhrydain. Dywedir na bu ganddynt un adeg fwy na naw o dai.[3] Sefydlwyd yr urdd hon. gan Bruno Sant yn yr unfed ganrif ar ddeg, a chymer yr urdd ei henw oddiwrth Chartreuse. Nodweddid yr urdd gan lymdra ei disgyblaeth. Adeg diddymu y mynachdai, yn yr unfed ganrif ar bymtheg, perthynai i'r urdd hon wyth o fynachdai ac oddeutu cant o aelodau.[4]

  1. Creighton; The Coming of the Friars, p. 47: Jessopp. It was the ideas of the friars that found expression in the Barons' War."-Historical Lectures and Addresses, p. 110: Creighton.
  2. The Coming of the Friars, p. 47: Jessopp.
  3. The Coming of the Friars, p. 125: Jessopp.
  4. English Monastic Life, p. 222: F. A. Gasquct.