Tudalen:Hanes Mynachdai.pdf/17

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD II.

Y MYNACHDY.

Y RHAN bwysicaf o'r mynachdy oedd yr eglwys; ac mewn gwledydd o hinsawdd oer, gosodid yr eglwys i fyny, fel rheol, ar du y gogledd i'r mynachdy, fel y byddai i'w muriau trwchus fod yn gysgod rhag gwyntoedd oer y gogledd. Adeiledid fynychaf ar ffurf croes, a bwriedid i hyn fod yn arwyddluniol. Yn nesaf mewn pwysigrwydd deuai y clwysdai—y rhannau o'r mynachdy ffurfiai gartref i'r myneich cymerai y prior ei le agosaf i'r eglwys a'r myneich wedi hynny yn ol trefn eu hoed. Yr oedd i'r Abad, ar gyfrif ei urddas, le ar wahan. Yn y bwyty, fel yr awgryma yr enw, y cymerai y myneich eu prydau; safai hwn, fel rheol, cyn belled ag y byddai yn gyfleus oddiwrth yr eglwys. Ynglŷn â'r bwyty ceid y gegin lle y paratoid y bwyd. Yn ol rheolau Urdd Clugny yr oedd dwy gegin i fod mewn mynachdy, yn y gyntaf yr oedd y myneich i wasanaethu bob un am wythnos yn ei gylch, yn yr olaf gwasanaethid gan weision taledig. Disgrifir yn fanwl yn y Custumals ddodrefn y ceginau, megis y crochanau, dysglau, llwyau. Cyfeiria Tudur Aled at gegin Aberconwy—cegin y "gwr a gadwai Gwynedd "ac at brysurdeb y cog yn arlwyo croeso iddo.

Glwys yw cegin y t'wysog
Troi mae'r gwaith trwm ar ei gog. [1]

Yr hundai,— y dortor neu'r dortur, fel y disgrifir y rhan hon o'r mynachdy gan y beirdd,[2] oedd y rhannau neilltuid i'r myneich orffwys ynddynt. Trefnid ystafell fechan i bob mynach. Rhan bwysig o'r mynachdy oedd yr ysbyty—cartref y claf, yr hen, a'r methedig rhoddid pwys neilltuol ar hyn, a delid yr abad yn gyfrifol am unrhyw ddiffyg yn hyn ar ran y swyddogion wasanaethent oddi tano; disgwylid iddo fod yn dra gofalus ar gael o'r cleifion a'r methedig yr oll oedd yn angenrheidiol iddynt. Rhannau ereill o'r mynachdy oedd y gwesty, lle y croesawid dieithriaid. Rhoid croeso i'r holl ddieithriaid, ond nid yr unrhyw groeso gaent i gyd. Gofalai yr abad am y dieithriaid anrhydeddus,—caredigion y sefydliad, tra y derbynid gan swyddogion is rai ddeuent i'r mynachdy ar negeseuau masnachol, tlodion crwydr, a myneich berthynent i grefydd-dai ereill; y parlwr y locutorium—oedd fath o ystafell siarad lle y trafodid rhwng abad, prior, a myneich gwestiynau

  1. Gorchestion Beirdd Cymru, td. 235: Rhys Jones.
  2. Gorchestion Beirdd Cymru, td. 206: Rhys Jones.