Tudalen:Hanes Mynachdai.pdf/18

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddalient berthynas â'r mynachdy, a lle y caniateid i'r myneich ymgomio â'r rhai ddeuent i ymweled â hwy; yr elusendy lle y rhoid cymorth i'r tlodion, safai hwn fel rheol yn agos i'r eglwys, a byddai yng ngofal un o'r myneich hynaf yn y sefydliad; gwasanaethai yr elusendy hefyd fel ysgol rad i blant tlodion; yr ystafell ymdwymo at wasanaeth y myneich; cyneuid tân yn hon ar y cyntaf o Dachwedd a pharheid ef hyd y Pasg; clwysgordy—chapter-house—hwn oedd uchel-lys y mynachdy, yma y trafodid pob materion o bwys, megis ethol yr abad a swyddogion ereill y mynachdy, yma y cyffesid pechodau ac y ceryddid am droseddau anfad. Ymgynullid i'r clwysgordy yn wythnosol, ac mewn rhai mynachdai yn ddyddiol, yn uniongyrchol wedi'r gwasanaeth boreuol. Hwn oedd y lle y cleddid yr abadau ynddo, a gosodai hyn gysegredigrwydd ychwanegol arno; y llyfrgell a'r ystafell ysgrifennu. Dyna brif rannau mynachdy. Prif swyddog y mynachdy oedd yr abad, edrychid arno fel cynrychiolydd Crist o fewn y sefydliad, ac yr oedd pawb o fewn y mynachdy yn rhwym i ufuddhau iddo; disgwylid iddo ymgynghori â swyddogion eraill mewn achosion o anhawsterau neilltuol, ond ei awdurdod ef oedd i fod yn oruchaf. Telid gwarogaeth ac anrhydedd neilltuol iddo; pan ai heibio yr oedd pawb i godi ac i ymgrymu iddo; yn y clwysgordy a'r bwyty, nid oedd neb i gymeryd ei le hyd oni byddai ef wedi eistedd; pan eisteddai yn y clwysdy, nid oedd neb i gymeryd ei sedd yn agos ato heb ei ganiatad. Yr oedd llywodraeth y sefydliad ar ei ysgwydd ef, a disgwylid iddo fod yn hollol ddiduedd a didderbynwyneb yn ei ymwneud â'r rhai oedd o dan ei ofal. Y nesaf mewn pwysigrwydd i'r abad oedd y prior; apwyntid ef gan yr abad wedi ymgynghori â'r myneich hynaf yn y sefydliad. Perthynai iddo ef ofalu am iawn drefn a pherffaith ddisgyblaeth; disgwylid iddo fod yn addfwyn a gostyngedig ac yn esiampl berffaith mewn ffyddlondeb i ddefodau gwasanaeth crefydd. Yn absenoldeb yr abad, cymerai y prior ei le, ac yn ei absenoldeb yntau gwasanaethid gan yr is—brioriaid. Yr oedd y cantor yntau yn swyddog pwysig ynglŷn â bywyd y mynachdy, rhaid oedd iddo fod yn offeiriad cymwys, ac yn un hollol gynhefin âg arferion eglwysig; iddo ef y perthynai trefnu pob gwasanaeth crefyddol a'r rhai i gymeryd rhan ynddo, efe oedd arweinydd y gân o fewn y mynachdy, a gofalai yn fynych am y llyfrgell; ymysg swyddogion eraill y mynachdy gellir nodi yr Elusenwr, Croesawr y dieithriaid, yr Ystafellydd—yr un ofalai am ddillad y myneich—y cog a'r goruchwyliwr. Cyn y gellir ffurfio syniad cywir am nodwedd y llywodraeth, rhaid cymeryd i ystyriaeth yr urdd y perthynai y mynachdy iddi. Yn y mynachdai sefydlwyd gan y Cluniaid, math o unbenaeth oedd y llywodraeth; yr oedd y prioriaid yn derbyn eu hawdurdod gan Abad Clugny, ac yr oeddynt yn rhwym i dalu gwarogaeth iddo, ac i anfon swm o arian yn flynyddol iddo. Yr oedd y Mynachdai Cisterciaidd yn anibynol a hunan—lywodraethol; dewisent eu habad eu hunain; ac yr oedd y rhai hyn yn rhwym i ddod ynghyd ar adegau neilltuol i fath o gymanfaoedd cyffredinol lle y trafodid cwestiynau ddalient berthynas â'r urdd. Yr oedd i'r mynachdai drwy eu habadau lais yn y llywodraeth eglwysig—