Tudalen:Hanes Mynachdai.pdf/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwneid yr eglwysi yn un mewn math o gyngrair. Rhaid gwahaniaethu yn fanwl rhwng y tai lywodraethid gan abadau a'r tai oedd dan ofal prioriaid; mae'r gwahaniaeth yn bwysicach nag yr ymddengys ar y cyntaf. Pan geir mynachdy dan ofal prior, fel rheol, mae'r priordy yna yn ddibynol ar rhyw abaty arall, naill ai yn y wlad hon neu ar y Cyfandir. Cell berthynol i Abaty St. Florence o Saumur oedd priordy Mynwy. Perthynai priordy Aberhonddu i Battle Abbey, a phriordy Ewenni i St. Peters, Gloucester. Fel y gwelwyd, mewn pennod flaenorol, credid un adeg mai'r ffordd i fyw bywyd ysbrydol uchel oedd drwy ddianc o gymdeithas ein cyd-ddyn; dyna syniad yr ancr a'r meudwy; ond nid dyna, fel rheol, sydd i'w ddeall wrth fywyd y mynach, ond golyga yn hytrach nifer o bobl yn ymffurfio yn gyfundeb er mantais i ddatblygu eu bywyd ysbrydol—byw ynghyd mewn mynachdy, gan ymostwng i reolau a disgyblaeth y sefydliad. Fe nodweddid bywyd y gwahanol grefydd-dai gan lawer o debygrwydd, ychydig oedd o wahaniaeth yn hyn o beth rhwng y gwahanol urddau. Gwneid y cyfundeb i fyny o fyneich, eu gweision, y rhai weithient ar y tir perthynol i'r mynachdy, ac ymwelwyr achlysurol. Cynhelid chwe' gwasanaeth bob dydd, ac un am hanner nos, a disgwylid yr holl gwfeniaid—pawb berthynai i'r sefydliad, i'r rhai hyn.[1] Ymysg y Cisterciaid, nid oedd y rheol hon lawn mor fanwl. Dechreuai y dydd o fewn y mynachdy am chwech o'r gloch y boreu. Cymerai y myneich eu boreufwyd oddeutu hanner awr wedi wyth, eu cinio am un ar ddeg, a'u swper am bump o'r gloch; ar ddyddiau neilltuol o fewn y flwyddyn, pan na chaniateid i'r myneich swper, rhoddid iddynt, os dymunent, ychydig ddiod—y potum caritatis—ac ychydig fara oddeutu hanner awr wedi chwech yn y gaeaf, a hanner awr wedi saith yn yr haf. Bu glythineb droion yn ffaeledd amlwg yn hanes y myneich; pan ddygwyd i mewn ddiwygiad drwy y Cisterciaid rhoid pwys neilltuol ar fyw bywyd symlach o ran bwyta ac yfed. Caniateid i'r myneich nifer o oriau bob dydd fel seibiant, i amcan ymarferiadau corfforol, ac i ddwyn ymlaen unrhyw waith y teimlent ddyddordeb ynddo. Yr oriau hyn oedd o ddeuddeg tan bump yn y prydnawn yn yr haf, ac o un tan chwech yn y prydnawn yn y gaeaf. Yn ystod yr oriau hyn ai pob un at ei waith ei hun— ysgrifennu, darllen, canu, gwaith y gegin, y pobty, yr ardd, y maes. Darperid yn y modd hwn ar gyfer anghenion y sefydliad, a chai'r cwfeniaid ymarferiadau corfforol gryfhai eu cyfansoddiadau ac a'i cadwai rhag diogi a musgrellni. Cwestiwn yn gofyn cryn sylw yw perthynas yr esgob a'r mynachdy. Cyn y gellir ymwneud â'r cwestiwn, rhaid deall y gwahaniaeth rhwng safle yr esgob yn Eglwys Geltaidd y Cymry a'i safle yn Eglwys Rhufain. Yn Eglwys Rhufain yr oedd yn rhaid i un cyn y gellid gwneud esgob ohono, fod wedi myned drwy urdd diacon ac urdd offeiriad; yn yr Eglwys Geltaidd gallai un ddod yn esgob ar unwaith heb iddo fyned drwy unrhyw urdd eglwysig yn flaenorol; yr oedd yn rhaid wrth dri o leiaf o esgobion er cysegru esgob yn Eglwys Rhufain, ond yn Eglwys Geltaidd y Cymry yr oedd un esgob yn ddigon i'r amcan

  1. Peckham's Register, ii., Preface, p. lxviii., etc.