Tudalen:Hanes Mynachdai.pdf/20

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hwn yn Eglwys Rhufain perthynai i'r esgob esgobaeth, ond yn yr Eglwys Geltaidd swyddog oedd yr esgob o fewn y mynachdy, heb fod ganddo unrhyw diriogaeth i fwrw golwg arni, ac nid oedd ganddo unrhyw awdurdod ar y myneich; fel holl swyddogion y mynachdy, yr oedd ef ei hunan dan lywodraeth yr abad. Yn raddol, fodd bynnag, fel y gwelwyd, daeth yr Eglwys Gymreig dan ddylanwad Eglwys Rhufain, ac un o ganlyniadau naturiol hyn oedd. cryfhau dylanwad yr esgob, o fod yn swyddog is-raddol o fewn y mynachdy daeth yn ben y clerigwyr o fewn cylch neilltuol—yr esgobaeth, ac yr oedd iddo awdurdod drostynt. Yr oedd yr esgob unwaith islaw yr abad, yna daeth yn gyfartal âg ef, ac yn ddiweddaf daeth uwchlaw iddo. Naturiol, gan hynny, oedd iddynt fod yn eiddigus o'u gilydd. A oedd gan yr esgob awdurdod ar y mynachdai ddigwyddai fod o fewn cylch ei esgobaeth, a hawl i ymweled â hwy, a gweinyddu cerydd am unrhyw afreoleidd-dra allai ffynnu yn eu mysg? Er osgoi y fath ymweliadau, dadleuai swyddogion y mynachdy nad oedd mynachdy o angenrheidrwydd yn sefydliad eglwysig, nad oedd raid i'r abad fod yn wr eglwysig, cafwyd nifer fawr o dro i dro nad oeddynt, ac nad oedd y myneich yn rhwym o fod mewn urddau eglwysig. Rhyddhawyd rhai abatai oddiwrth y fath ymweliadau—gwnaed hyn gyda Battle Abbey; wedi caniatau yr egwyddor hon, ymladdai eraill am yr un rhagorfraint. Bu llawer o ymgyfreithio rhwng yr esgobion a'r abadau mewn perthynas i'r cwestiwn hwn; yn fynych gwneid achosion digon dibwys yn achlysur ymrafael a chyfraith; anodd yw peidio credu na cheisiai y myneich yn fynych rhyw esgus o gweryl â'r esgobion er mwyn cael rhywbeth i dorri ar unffurfiaeth bywyd o fewn muriau mynachdy. Gan nas gallai yr abad a'r esgob gytuno â'u gilydd, naturiol oedd gweld yr un ysbryd yn llywodraethu y myneich a'r clerigwyr yn eu hymwneud â'u gilydd. Nodweddid y myneich i raddau mawr gan eu rhaib am eiddo a meddiannau; dioddefodd y clerigwyr cyffredin yn fawr oddiwrth eu rhaib.[1] Yspeilid eu tai yn fynych gan y myneich, a thrwy gyfrwysdra a dichell, llwyddasant i fynd a degwm aml i blwyf i'r mynachdy y perthynent hwy iddo. Fel rheol, lle y ceir ficer yn lle rheithor yn Lloegr a Chymru, cyfeiria hyn at adeg pan yr aed a'r degwm oddiar y plwyf ac y trosglwyddwyd ef i'r mynachdy. Wedi mynd a'r brasder ymaith, rhoddai y myneich rywun—yn fynych y rhataf ellid gael—i wasanaethu y cyfryw blwyf, ac fel hyn gwnaent gam parhaol âg ef. Ceir engraifft bellach o raib y myneich am feddiannau yn y twyllo, a'r ffugio enwau fu ynglŷn â siarterau y gwahanol fynachdai; tueddid i esgusodi ac i edrych gyda llawer o dynerwch ar amryw weithredoedd a'u hanrhydedd yn ddigon amheus, os byddent yn foddion i ddwyn elw i'r mynachdy ac i osod bri arno,—edrychent ar yr amcan fel yn cyfiawnhau, yn cyfreithloni y moddion. Teg ydyw cyfeirio, fodd bynnag, ddarfod i'r myneich wneud rhyw fath o iawn i'r plwyfi hyn am fynd a'r degwm oddiarnynt drwy baratoi yn yr ysgolion

  1. "Of all the sins that the monks had to answer for, this greedy grasping at Church property, this shameless robbery of seculars was beyond compare the most inexcusable and the most mischievous."—The Coming of the Friars, p. 158: Jessopp.