Prawfddarllenwyd y dudalen hon
cysylltiedig â'r mynachdy wyr ieuainc fyddai yn ofalwyr am y plwyfi hyn; ac mewn rhai amgylchiadau, gofelid yn fanwl am y ficerdai a'r eglwysi hyn gan y myneich eu hunain.[1] Rhaid cadw mewn cof hefyd mai myneich Eglwys Rhufain fu yn foddion i ddwyn i'r Eglwys Gymreig y degwm fel taliad ag y gorfodid ei dalu drwy rym cyfraith.[2] Trwyddynt hwy y daeth, a thrwyddynt hwy y collwyd ef, mewn rhai amgylchiadau.