Tudalen:Hanes Mynachdai.pdf/22

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD III.

MYNACHDAI GOGLEDD CYMRU.

Y CYFNOD CYNTAF.

Enlli.—Yr oedd un o grefydd—dai hynaf[1] y wlad hon yn Ynys Enlli. Sefydlwyd ef yn gynnar yn y chweched ganrif gan Cadfan. Cysylltir y Saint Cymreig âg wyth o deuluoedd, a pherthynai Cadfan i gyff Emyr Llydaw: i'r un teulu perthynai Samson. Padarn a Winwaloce. Mab oedd Cadfan i Eneas Llydaw a daeth drosodd i'r wlad hon yn gynnar yn y chweched ganrif mewn canlyniad i'r ymosodiad wnaed ar Lydaw gan Ymerodraeth Ffrainc. Daeth gydag ef nifer o'i gydwladwyr, y rhai, fel yntau, fynnent ymroddi i fywyd o ymgysegriad i amcan crefydd. Sefydlwyd amryw eglwysi gan y sant hwn,—Llangadfan yn Sir Drefaldwyn, a Thywyn Meirionydd, ac Enlli mewn cydweithrediad ag Einion Frenin. Cysegrwyd crefydd-dy Enlli i'r Wyryf Fendigaid, ac ystyrid ef yn hynod ar gyfrif ei gysegredigrwydd,—gysegrediced oedd fel mai prif ddymuniad llawer o Saint Cymreig oedd cael lle bedd ynddo. Gadawodd Dyfrig ei esgobaeth yn ei hen ddyddiau pan y teimlodd nad oedd yn ddigonol i waith ei swydd, ac ymneilltuodd i fyw bywyd meudwy yn Ynys Enlli[2] lle y bu farw yn y flwyddyn 612; ond ar y seithfed o Fai, yn y flwyddyn 1120, symudwyd ei weddillion i Eglwys Llandaf. Tybir i gynifer ag ugain mil o saint gael eu claddu yn yr Ynys, ac oherwydd hyn gelwir hi yn fynych yn Ynys y Saint." ymysg y rhai hyn gellir nodi Deiniol, Esgob Bangor. Yr oedd y beirdd hwythau yn dyheu am gael bedd ym mangre'r pererinion, dymuniad Meilir oedd am iddo gael ei gynnwys ym plith plwyv gwirin gwerin Enlli."[3] Ysgrifennwyd gan Hywel Dafydd, bardd Rhaglan, gywydd i'r ugain mil saint a aeth i Enlli, yn y cywydd dywed —

Mi af i luniaw fy medd,
I'r Ynys oddiar Wynedd.
Gwyr un waed gwerin ydynt,
Gwyr un dad gwerin Duw ynt;
Eithr od aeth alaeth olwg,
Athrod draw am weithred drwg,
Parent a deisyfent saint
I'm diwedd a maddeuaint.[4]


  1. .... senior domus religiosa est de tota Wallia, excepta insula Sanctorum Bardigeye."—councils, Haddan and Stubbs, vol. 1. p. 584; Notitia Monastica, p. 703: Tanner.
  2. Liber Landavensis, p. 328; Vila Samsonis, c. 19.
  3. Stephens: Literature of the Kymry, p. 23.
  4. Merthyr Tydvil Manuscript, 105.