Tudalen:Hanes Mynachdai.pdf/23

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Credir i nifer fawr fynd am loches i Ynys Enlli yr adeg y dinistriwyd Bangor Iscoed,[1] yn eu mysg gellir nodi Brothen, sefydlydd Llanfrothen.[2] Dywed Pennant hefyd i'r Ynys fod yn un o gyrchleoedd y Cyldwys—myneich Albanaidd a Gwyddelig a ymneilltuent i ynysoedd a chonglau dirgel a phellenig, er mwyn cael mwy o hamdden i weddio a myfyrio, ac i hyfforddi yr ieuengtid ddeuai atynt; cadarnheir tystiolaeth Pennant gan eiriau Gerallt Gymro.[3] Yn ddiweddarach gosodwyd i fyny un o sefydliadau Benedict yn yr Ynys.[4] Yn ol Llawysgrifau Sebbright, ymddengys i ddeiseb gael ei chyflwyno gan Abad Enlli i Edward II. yn achwyn fod Sirydd Caernarfon wedi honni yn anghyfiawn oddiarno ef y tâl o wyth swllt a thrigain a chwecheiniog yn groes i feddiant—roddeb oedd ganddo. Gorchmynodd y brenin i ymchwiliad gael ei wneud i'r achos gan brif ynad Cymru; ac fel ffrwyth yr ymchwiliad hwn, datganwyd fod yr Abad yn dal ei dir yn Sir Gaernarfon, fel elusen pur a pharhaus, ac nad oedd unrhyw wasanaeth neu gydnabyddiaeth leol yn ddyledus oddiwrtho, a gorchmynwyd gan y brenin, wedi ymgynghoriad â'i gyngor, fod yr arian godwyd yn anheg oddiar Abad Enlli i'w talu yn ol iddo, ac ychwanegwyd nad oedd neb i flino y mynachdy mwyach.[5] Edrychid ar Enlli fel lle eithriadol gysegredig, nid yn unig gan Gymru, ond gan yr Iwerddon hefyd.[6] Gwaddolwyd Enlli yn helaeth gan dywysogion Cymru, a chan garedigion crefydd; ac ymysg ei habadau, gellir nodi Idwal fab Gruffydd ab Cynan, Cadwallon ab Owen Gwynedd, Llywelyn ab Cadwallon, Madog y Caws, a'i habad diweddaf, John Conwy, etifedd Bodnithoedd, ym Myllteyrn. Parhaodd y sefydliad yn Enlli hyd adeg diddymu y mynachdai yn yr unfed ganrif ar bymtheg, pryd yr oedd ei meddiannau yn ol Dugdale yn werth £46 1s. 4d., ac yn ol Speed yn werth £58 6s. 2d. Trosglwyddwyd yr eiddo hwn i ddechreu i Syr Thomas Seymor, ac yn ddiweddarach i John, Iarll Warwig. Ceir llawer o gyfeiriadau at Enlli yng ngweithiau beirdd Cymru; dyfynnwyd o rai ohonynt yn barod, gellid ychwanegu lliaws ereill. Cymerer a ganlyn yn engreifftiau; am Einion Frenin, yr un y credir y bu iddo law flaenllaw yn sylfaenu crefydd-dy Enlli, dywed Hywel ab Rheinallt:

Y crefyddwr cryf addwyn,
Aur yw dy fedd er dy fwyn,
Einion Fawr Einion Freiniol
Frenin a'th werin i'th ol.

A chyda chyfeiriad at yr ugain mil saint gladdwyd yn Enlli, dywed T. Celli:

Awn i Enlli rhi yn rhod,
O nwyf bur i Nef barod.


  1. Pennant's Tours in Wales, vol. ii 370.
  2. Lives of the British Saints: S. Baring—Gould and John Fisher, vol. i., p. 303.
  3. Itinerary through Wales, Giraldus Cambrensis, p. 118: W. Llewelyn Williams.
  4. A History of the Welsh Church, p. 293: Newell.
  5. Welsh Abbeys, p. 9: John A. Randolph.
  6. The Celtic Church of Wales, p. 138: J, W. Willis Bund.