Tudalen:Hanes Mynachdai.pdf/24

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Canodd Islwyn yntau gywydd prydferth i Enlli "diffynfa'r ffydd," : os bechan oedd yr Ynys, mawr oedd y fendith geid ynddi:

Er lleied am—led dy dir
Y fendith oedd gyfandir.
Ni fu erwi gan feirwon,
O wir saint mor fras a hon;
Yn dirion cuddia d'oror
Ugain mil wrth eigion mor....
Mae Cadfan o dan dy do
Hoff was i'r ne'n gorffwyso....
Y monachod mynychynt
Ein Enlli gain yn llu gynt.
Glaniaw rhag llid gelynion
Wnai saint yn yr ynys hon;
I fwynhau, i fyw yn ol
Cywir foddion crefyddol....
Finnau, yn llesgedd f'henaint,
Hoffwn cyfrifwn yn fraint
Gael treulio yno mewn hedd
O dawel ymneillduedd
Eiddilion flwyddi olaf
Fy ngyrfa, yn noddfa Naf.[1]

Yn ei restr o grefydd—dai Sir Gaernarfon cyfeiria Leland at Ynys Enlli, gwnaeth Leland ei daith yn ystod y blynyddoedd 1536—1539, ac amlwg yw fod y sefydliad yn Enlli yn cadw ei gymeriad cref— yddol i fyny yn ystod y blynyddoedd hyn.[2]

Bangor Iscoed.—Un o fynachdai pwysicaf Gogledd Cymru yn y cyfnod cyntaf oedd Bangor Iscoed; arweiniai yn yr ymdrech am anibyniaeth yr Eglwys Gymreig. Hanes byr sydd i'r sefydliad. Cychwynwyd ef yn ystod y rhan olaf o'r chweched ganrif gan Dunawd Ffur, mab Pabo Post Prydain, yr hwn hefyd oedd yr abad cyntaf, a dinistriwyd y sefydliad naill ai yn y flwyddyn 613 neu 616. Nid ymestyn yr hanes ond dros oddeutu hanner can mlynedd; ond gwnaeth y sefydliad waith mawr mewn byr amser. Efe a gymerai y blaen yn yr ymdrech rhwng Eglwys Rhufain a'r Eglwys Geltaidd. Mynnai Eglwys Rhufain i'r Eglwys Gymreig ymostwng iddi hi, ac mewn trefn i ddwyn hyn oddiamgylch rhoddodd y Pab Gregori lawn awdurdod i Awstin o Gaergaint, ei gynrychiolydd ym Mhrydain, i ddelio yn ol ei ddoethineb gyda'r Eglwys Gymreig. Yr oedd y gwaith hwn wrth fodd calon Awstin, ac oddeutu y flwyddyn 603 galwodd gynhadledd o'r esgobion Prydeinig i ymgynghori gydag ef. Pwy oedd yr esgobion hyn, amhosibl yw dweyd. Nis gellir rhoi fawr bwys ar y rhestr a geir yn yr Iolo MSS.[3]; enwir saith o esgobion yn y rhestr hon, Henffordd, Llandaf, Padarn, Bangor, Llanelwy, Wig, a Morgannwg. Nid oes unrhyw sail i'r fath restr. Bede ydyw ein hawdurdod ar y mater hwn, ac ni rydd ef

  1. Gweithiau Islwyn, td. 281—283: O. M. Edwards.
  2. Leland's Itinerary in Wales, part. vi., p. 81.
  3. Iolo MSS., 143, 548.