Tudalen:Hanes Mynachdai.pdf/25

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

unrhyw fanylion yn eu cylch; gallai fod yn eu mysg gynrychiolwyr Cymry Ystrad Clwyd, mae yr ymadrodd ddefnyddir ganddo—Brettonum episcopi[1]—yn ddigon penagored i gynnwys Ystrad Clwyd; ac am y nifer, yr oll ddywed Bede ydyw mai saith oedd ohonynt yn ol y traddodiad—ut perhibent. Yng ngoleuni y ffeithiau hyn, mae'r casgliad y daw Haddan a Stubbs iddo yn hollol deg, "nid oes dystiolaeth ddigonol i brofi pwy oedd yr esgobion hyn."[2] Cafwyd dwy gynhadledd, a cheisiodd Awstin gen gynrychiolwyr Eglwys y Cymry gydymffurfio âg Eglwys Rhufain, ac ymuno gyda hi mewn cenhadaeth i efengyleiddio y Saeson, a chydymffurfio âg Eglwys Rhufain gyda golwg ar amseriad y Pasg a'r dull o fedyddio.[3] Gwrthododd yr esgobion delerau Awstin; a dywedir i'r diweddaf broffwydo y byddai dinistr yn eu dal am wrthod ohonynt gydymffurfio à dymuniad Eglwys Rhufain. Ceir atebiad Dunawd i Awstin yn ddiweddarach yn hanes ein llenyddiaeth, ond nis gellir derbyn ei ddilysrwydd, mae'n amlwg mai "atebiad gwneud" ydyw, a'i fod yn ddiweddarach na chyfnod Sieffre o Fynwy. Rhoddir yr atebiad yn gyflawn gan Haddan a Stubbs.[4] Nid hir y bu daroganaid Awstin heb ei gyflawni; ym mrwydr Caer a ymladdwyd yn y flwyddyn 613 neu y flwyddyn 616, daeth nifer fawr o fyneich Bangor Iscoed i faes yr ymladd i weddio am lwyddiant y Prydeiniaid. Wedi gweled o Aethelfrith hwynt a deall eu neges, dywedodd—" Os ydynt yn gweddio ar Dduw yn ein herbyn, maent yn ymladd yn ein herbyn er nad ydynt yn dwyn arfau, ymosodant arnom drwy weddiau anffafriol i ni."[5] Gorchmynodd, gan hynny, i'w wyr ymosod arnynt hwy yn gyntaf, a lladdwyd oddeutu deuddeg cant ohonynt; llwyddodd oddeutu deg a deugain i ddianc. Priodolai Bede eu dinistr i'w gwaith yn gwrthod cydymffurfio â chyngor Awstin, ac wrth wneud y fath sylw, dengys Bede ei ragfarn yn erbyn y Cymry ac yn erbyn eu heglwys. Wedi ennill brwydr Caer, aeth Aethelfrith i Fangor Iscoed, a dinistriodd y sefydliad mynachaidd oedd yno. Yr oedd ysgol enwog ym Mangor Iscoed, ac yn ol tystiolaeth Bede, mynychid hi gan ddwy fil a chant o ysgolheigion.[6] Tybia rhai i Pelagius, Finian, Gildas, Nennius a Chybi dderbyn rhan o'u haddysg ym Mangor Iscoed.[7] Ymwrthyd, fodd bynnag, un o'r awdurdodau uchaf ar hanes Bangor Iscoed â'r syniad hwn.[8] Nid oes unrhyw sail i gredu fod ym Mangor Iscoed abaty o gwbl; y tebygrwydd yw y byddai y cwfeniaid yn byw mewn cytiau syml diaddurn ar lannau yr afon Ddyfrdwy oddeutu Bangor. Chwedlau gwneud yw y rhai

  1. Historia Ecclesiastica, cap. ii.
  2. Haddan & Stubbs: Councils, vol. iii. p. 41; Baedae Opera Historica, Tomus ii., p. 75, Plummer.
  3. Historia Ecclesiastica, cap. ii, p. 81, 82.
  4. Councils, Haddan & Stubbs, vol. i., pp. 122, 149; Baedae Opera Historica, Tomus ii., p. 75: Plummer.
  5. Historia Ecclesiastica, vol. ii. p. 84.
  6. Historia Ecclesiastica, cap. ii, p. 82.
  7. "The Celtic Church of Wales, p. 171: J. W. Willis Bund.
  8. Neither Lupus, Germanus, nor Pelagius could ever have been connected with Bangor. Nor is there any evidence for connecting Gildas or Nenuius with it. I doubt moreover, whether St. Cybi was ever a member of this monastery It would not be safe specifically to name any saint as belonging to the monastery of Bangor Iscoed except Dunawd himself and perhaps his son Deinioel "—A. N. Palmer. Cymmrodor, vol. x., p. 21.