Tudalen:Hanes Mynachdai.pdf/26

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hynny broffesant ddarlunio cangder a gwychder adeiladau myn— achaidd Bangor Iscoed.[1]

Clynnog Fawr yn Arfon.—Sefydlwyd y fynachlog hon yn nechreu y seithfed ganrif gan Feuno Sant. Perthynai Beuno i gyff Cadell Deyrnllwg ym Mhowys; i'r un teulu o saint perthynai Tyssilio, Catwg, a Phedrog. Mae ar gael grynhodeb byr o hanes bywyd Beuno yn Llyvyr Agkyr Llandewivrevi[2] gwaith ysgrifennwyd yn y flwyddyn 1346 yn Llanddewi Brefi. Yn ol yr hanes hwn, a ganlyn oedd cerrig milltir ei fywyd. Ganwyd ef ym Manhenig ym Mhowys ar lan yr afon Hafren, a dywedir am ei rieni, Bugi ei dad a Beren ferch Llawdden ei fam, eu bod yn ddynion "gwirion" a da eu buchedd. Anfonwyd ef pan yn ieuanc i Gaerwent i'w addysgu gan Tangusius yn yr ysgol sefydlwyd gan Ynyr Gwent. Gwnaeth ddefnydd da o'i fanteision. "Achyt ar sant hwnnw ybu ef drwy ganhorthwy duw yn dyscu yny wybu yr holl yserythur lan. Odyna ydysgawd of wassenaeth aryoleu yr eglwys. ac ykymerth urdeu ac y bu offeirat." Gwnaeth Beuno y fath argraff ffafriol ar Ynyr Gwent fel y penderfynodd y diweddaf ymneilltuo o'i safle frenhinol a dod yn ddisgybl iddo, a danghosodd ei barch ymhellach iddo drwy gyflwyno tiroedd iddo yn Ewyas. Dyma gyfrif am Llanfeuno yn y rhanbarth hwn. Ar glywed o Feuno am afiechyd ei dad, aeth ar unwaith i Bowys i weini arno, yn fuan wedi iddo gyrraedd bu ei dad farw. Yn fuan wedi hyn, aeth Beuno i ymweled â brenin Powys, a derbyniwyd ef yn garedig a boneddigaidd gan y brenin, yr hwn a roddodd iddo Aber rhiw yn Sir Drefaldwyn. Rhaghysbyswyd iddo fod y Saeson yn debyg o feddiannu y rhanbarth roddwyd iddo gan Fawan brenin Powys, ac felly bernodd yn ddoeth ymadael oddiyno. Wedi rhoddi Aber rhiw yng ngofal un o'i ddisgyblion, aeth Beuno i Feifod ac erhosodd am yspaid o amser gyda Tyssilio; o Feifod aeth i Wyddelwern ym Meirionydd, lle bu cryn ymrafael rhyngddo â meibion Solyf. Wedi blino ar helynt meibion Selyf, aeth Beuno i lan yr afon Ddyfrdwy i geisio lle i weddio Duw, ond nis cafodd hyn nes dyfod ohono at Temig fab Eluid. Oddeutu yr adeg hon bu farw Cadfan brenin Gwynedd, a dilynwyd ef yn y frenhiniaeth gan Gadwallon ei fab, yr hwn a roddodd i Feuno a'r rhai oedd gydag ef dir i weddio ac i breswylio ynddo yng Ngwredog yn Arfon, yn gyfnewid am y waell aur roddasid iddo of gan y Sant. Ar y llecyn hwn, adeiladodd Beuno eglwys, a thra yr oedd yn adeiladu mur ynghylch yr eglwys, daeth gwraig ato i ddymuno arno fendithio y mab newydd eni oedd yn ei harffed. Atolygodd Beuno arni aros ychydig nes gorffen ohonynt y gorchwyl oedd ganddynt mewn llaw. Yn ystod yr aros hwn, wylai y plentyn yn dost. Wedi ymofyn o Feuno achos yr wylo hwn, dywedodd mam y plentyn mai treftad ei mab oedd y tir feddiannwyd ganddynt ac nad oedd gan y brenin unrhyw hawl i'w roddi iddo ef. Aeth Beuno ar unwaith i ymweled â'r brenin, gan gymeryd y wraig hon a'i phlentyn gydag ef, ac wedi ei geryddu am yr hyn a wnaeth, gofyn-

  1. A. N. Palmer: Cymmrodor, vol. x., p. 16.
  2. The Elucidarium pp 113—127: J Morris Jones.