Tudalen:Hanes Mynachdai.pdf/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nodd iddo roddi tir arall iddo, neu ddychwelyd y waell aur roddwyd yn anrheg iddo; ond ateb trahaus roddodd y brenin iddo, ni newidiai y tir, ac am y waell yr oedd yn barod wedi ei rhoddi i arall. Trwy yr ateb hwn, dygodd y brenin arno ei hunan wg y sant. "Mi aarchaf heb of yduw na bo hir ymedych ti ar tir adayar." Wedi ymadael o bresenoldeb y brenin, cyfarfu Beuno â Gwyddnaint cefnder Cadwallon, ac yr oedd yn awyddus i wneud iawn i'r sant am ddrygfoes y brenin. Gwyddnaint "arodes dros yeneit ehun ac eneit cadwallawn ygeuynderw. yduw a beuno. ydref ehun a elwit Kellynnawc yn dragywydawl. heb val aheb ardreth aheb vedyant ydyn orbyt na hawl arnei." Yr oedd eglwys Clynnog yn un o'r rhai harddaf yn y wlad; dywed Leland ei "bod yr eglwys harddaf yn Sir Gaernarfon, ei bod yn rhagori ar eglwys Bangor, oi bod bron gymaint a Thyddewi ond o wneuthuriad gwahanol.[1] Disgrifir yr eglwys gan Pennant fel yr adeilad gwychaf o'r math hwn yng Ngogledd Cymru.[2]. Yr oedd Beuno yn fawr ei barch, ac erys ei enw ynglŷn âg enwau lleoedd megis Capel Beuno, neu Eglwys y Bedd lle gorwedd gweddillion y Sant, Ffynnon Feuno, Gored Beuno. Cedwir ei enw hefyd ynglŷn â Chyff Beuno, a Nod Beuno; am y ddau ddiweddaf, dywed Eben Fardd: "Cystal i chwi geisio torri Cyff Beuno" fyddai y dywediad gynt yng Nghlynnog, pan geisiai rhywun wneud rhywbeth hynod o anhawdd. Mae yr hen gist hon yng nghadw yn yr Eglwys hyd y dydd heddyw. Un darn o bren ydyw wedi ei gainio yn geudod eang oddimewn, a rhan o'i arwyneb uchaf wedi ei lifio allan i wneud cauad, a thwll ynddo i fwrw darnau arian yr offrymau i mewn drwyddo. Y mae bollt haiarn hir a chref yn rhedeg drwy dri o'r hespennau, ar ba rai y byddai tri o gloiau i'w ddiogelu, a'r agoriadau yn cael eu cadw, un gan yr offeiriad a'r ddau arall gan y Wardeniaid. Cedwid ynddo werth yr anifeiliaid a fyddent yn dwyn arnynt "nod Beuno," sef hollt naturiol yn y glust; y rhai oeddynt drwy gyflawn hawl yn offrymau priod y Sefydliad; yr oedd heblaw hyn, lawer o offrymeu gwirfoddol yn cael eu bwrw i mewn yn achlysurol."[3] Bu farw Beuno yn ol pob tebyg, ar yr unfed ar hugain o Ebrill yn y flwyddyn 642. Tybir mai y Cyldwys oedd y dosbarth o fyneich drigiannent yng Nghlynnog yng nghyfnod cyntaf y fonachlog, ac mae hyn yn debyg pan gofir fod yr un dosbarth yn Enlli yr un adeg.[4] Yn ddiweddarach daeth y Cisterciaid—y Myneich Gwynion—i Glynnog. Nid oes wybodaeth pa hyd yr arosasant, yr oeddynt wedi mynd cyn y flwyddyn 1291. Yn y flwyddyn 1288, caniataodd y Pab Nicolas IV. ddegfed ran o dderbyniadau y clerigwyr i Edward I. i ddwyn traul y Groesgad yr ymgymerai à hi; gorchmynodd y brenin fod pob bywoliaeth eglwysig i'w phrisio o fewn talaethau Caergaint ac Efrog, gorffennwyd hyn yn ystod y blynyddoedd 1291—92.[5][6][7] Yr adeg y gwnaed Trethiad Nicolas yr oedd

  1. Leland's Itinerary in Wales, part vi, pp. 52, 86—87.
  2. Pennant's Tours, vol. ii., p. 384
  3. Cyff Beuno, td. 56: Eben Fardd.
  4. Cyff Beuno, td. 62, 63: Eben Fardd.
  5. Leland's Itinerary in Wales, part vi., p. 52;
  6. Welsh Abbeys, p. 12: J. A. Raudolph.
  7. Councils, Haddan & Stubbs, vol. I. p. 597.