Tudalen:Hanes Mynachdai.pdf/28

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Clynnog yn eglwys golegaidd gyda phump o ganoniaid yn perthyn iddi.[1] Gwaddolwyd Clynnog Fawr gan Ruffydd ab Cynan, a daeth yr eglwys mewn canlyniad yn un o sefydliadau'r Goron." Per- thynai i Glynnog dri chapeliaeth, capeliaeth unedig Llanwnda a Llanfaglan, capeliaeth unedig Llangeinwen a Llangaffo yn Sir Fôn, a chapeliaeth Llangelynin yn Sir Foirionydd. Parhaodd Clynnog Fawr yn eglwys golegaidd hyd yr amser y diddymwyd y mynachdai. Ni ddeuai sefydliad eglwysig Clynnog yn briodol o fewn cylch y weithred er diddymu y crefydd-dai; yr oedd yr arian ddeuai i'r sefydliad o dan £200, ac nid oedd y sefydliad yn fynachdy mewn ystyr fanwl; "ymwelwyd," fodd bynnag, âg ef, newidiwyd ei gymeriad colegaidd, ac yspeiliwyd ef o'i feddiannau. Perthyn Perigloriaeth Clynnog i Goleg Iesu, Rhydychen, ac mae'r Ficeriaeth yn nawdd Esgob Bangor.

Yr oedd yng Nghlynnog lyfr a olwid Llyfr Beuno, neu y Tiboeth. Ceir y nodiad a ganlyn gan Dr. John Davies o Fallwyd yn ei Eiriadur mewn perthynas iddo: "Tiboeth y gelwid Llyfr Beuno Sant oedd yn eglwys Glynnog yn Arfon, a maen du arno; yr hwn a'sgrifennasa Twrog yn amser Cadfan frenhin, ac a ddiangodd pan losgodd yr eglwys. Hwn a welais i, mêdd T.W. anno 1594.[2]." Y T.W. y cyfeirir ato ydyw Dr. Thomas ap William, ac mae'n debyg fod y llyfr yr un a'r Graphus Sancti Beunoi y cyfeiriwyd ato gan amryw dystion yng Nghaernarfon yn y flwyddyn 1537. Gellir casglu mai math o gofrestr oedd o feddiannau y sefydliad, rhestr o aelodau y elwysgor, ac ambell gofnod o ddigwyddiadau o ddyddordeb cyffredinol.[3] Ceir llawer o gyfeiriadau yn ein barddoniaeth at Feuno a'r sefydliad yr oedd yn ben arno, gwasanaethed a ganlyn fel engreifftiau:

Adyn ar i hôl ydwyf,
Ywch ben gwen ych bannog wyf....
Nid ydoedd pan oedd yn iach
dan ael wineu dyn lanach
Lasar godes Iesu
yn fyw o'r bedd yn farw bu
gwnaed Duw am ddyn gannaid hir
i minnau godi meinir
dulas ydwy fal deilen
o frig yw am farw gwen
hon fo'r seithfed ddiledryw
bun fain a wnôêl Beuno'n fyw.[4]


  1. The Taxatio of Pope Nicholas mentions five portions in connection with it (Clynnog), namely, The portion of Master Anian Goch in the church of Clynnog Fawr, 91 marks; the portion of William Fychan and obventions, 7 marks; the portion of Matthew the Chaplain, in the same 7 marks; the portion of John, the chaplain in the same 7 marks; the portion of David, the Chaplain, in the same, 7 marks."-Portionary Churches of Medical North Wales, p. 17: A. N. Palmer.
  2. Dictionarum Duplex, d.g. "tiboeth": John Davies.
  3. Cymmrodor, vol. xix., pp. 77, 78.
  4. Cefn Coch MSS., p. 268.